Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
CAMHS
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR662-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nrys Datblygu Arferion

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Dyma gyfle i Nyrs Datblygu Ymarfer ddarparu addysg a hyfforddiant arbenigol o fewn yr amgylchedd clinigol ar Ward Cudyll yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru.

Mae theori addysg broffesiynol wedi dogfennu'n helaeth bod nyrsys yn dysgu orau trwy’r profiad o weld a gwneud ac fe gyflawnir hyn yn fwyaf effeithiol o fewn yr amgylchedd clinigol.  Bydd y Nyrsys Datblygu Ymarfer yn sicrhau’r sylfaen i bontio’r bwlch rhwng theori ac ymarfer gyda ffocws ar amodau a gofal dan arweiniad llwybrau sy’n benodol i’r arbenigedd y maent yn gweithio ynddo.

 Bydd y Nyrs Datblygu Ymarfer yn darparu addysg a hyfforddiant o fewn yr arbenigedd y mae ganddynt hygrededd clinigol amlwg ynddo.  Fel Nyrs Datblygu Ymarfer, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu cefnogaeth i bob dysgwr.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Dyma gyfle i Nyrs Datblygu Ymarfer weithio o fewn Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru.  Bydd y Nyrs Datblygu Ymarfer yn gysylltiedig â Ward Cudyll, gan ddarparu addysg, hyfforddiant a chymorth i'r gweithlu nyrsio.

Mae’r rôl amrywiol hon yn golygu y byddwch yn cyflwyno sesiynau addysgu, yn darparu cefnogaeth glinigol o fewn amgylchedd y ward, yn hwyluso fforymau, yn llunio cynlluniau gweithredu ac yn dyfeisio sesiynau addysgu newydd yn ôl yr angen.   Bydd gennych agwedd ymatebol a rhagweithiol at addysg a hyfforddiant gan sicrhau bod cynnwys ein sesiynau yn sensitif i risgiau cyfredol o fewn y ward/adran.

Byddwch yn cefnogi anghenion addysg a hyfforddiant pob dysgwr ac yn cyflwyno mentrau gwella ansawdd.  Byddwch yn cydweithio â'r Nyrsys Datblygu Ymarfer corfforaethol a'r Timau Hyfforddiant Clinigol.  Byddwch yn gweithio ar y cyd â'r Nyrsys Datblygu Ymarfer ehangach i feincnodi a sicrhau ansawdd y gwasanaeth.

Byddwch yn cefnogi dechreuwyr newydd i ddod yn gymwys mewn sgiliau clinigol sy'n benodol i arbenigedd, tra'n sicrhau’r arfer gorau wrth gaffael sgiliau. Bydd amser wedi'i neilltuo i sicrhau bod gan deilydd y swydd y cyfle i gynnal eu cymhwysedd clinigol eu hunain yn barhaus.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig
  • Profiad ol-gofrestru
  • Tystiolaeth o gymhwyster sy'n gysylltiedig a nursio hyd at lefel gradd
  • Cymhwyster addysgu/asesu hyd ar lefel Diploma Ol-radd (Lefel 6) neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Dangos brwdfrydedd tuag at addysgu a rhannu gwybodaeth
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn am faterion cyfredol yn ymwneud a nyrsio ac addysg
  • Profiad clinigol eang
  • Hygrededd clinigol
  • Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dim yn ogystal a gweithio'n annibynnol
Meini prawf dymunol
  • Yn gysylltiedig a datblygu gwasanaethau a materion ansawdd

Sgiliau a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog.
  • Y gallu i feithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol ac i weithio ar draws Uwch Adrannau a'r Adran Gorfforaethol.
  • Tystiolaeth o reoli staff mewn tim ac o ddelio a sefyllfaoedd anodd.
  • Y gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith staff eraill.
  • Y gallu i gyflwyno gwybodaeth berthnasol yn gryno.
  • Yn hyddysg mewn TG ac yn gallu amgyffred pwyntiau allweddol oddata rhifyddol.
  • Yn gallu meithrin diwylliant ansawdd mewn addysg a hyfforddiant.
  • Gwithredu mewn modd sy'n gyson a deddfwriaeth, polisiau a gweithdrefnau a chadw at bolisiau Iechyd a Diogelwch y BI.
  • Hunangymhelliant, delfryd ymddwyn cadarnhaol i'r holl ddisgyblaethau.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg.
  • Dealltwriaeth o ESR.

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Dangos tystiolaeth o'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus eich hun
  • Safonau personol rhagorol o ran ymddygiad.
  • Gallu gweithio o dan bwysau a chyflawni terfynau amser tunn.
  • Hyderus, hunangymhelliant.
  • Yn hyblyg ac yn ddyfeisgar.
  • Yn gallu cymell erall ac arwain datblygiadau yn y maes clinigol
  • Cymeriad cryf a hyder i reoli gwrthwynebiad a goresgyn rhwystrau mewn modd positif a heb fygythiad.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Robert Clarke
Teitl y swydd
Advanced Nurse Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg