Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal iechyd
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS245-0526
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cydlynydd Gweithgareddau

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

A ydych chi’n credu’n gryf mewn gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau y cânt bwrpas, strwythur a mwynhad yn eu bywyd?

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Gweithgareddau i ddod yn rhan o dîm NWAS ac ymgymryd â rôl allweddol i wella lles ac adferiad defnyddwyr ein gwasanaeth. Mae’r rôl yn allweddol i’n galluogi i greu amgylchedd calonogol yn y ward trwy gynllunio a rhedeg ystod eang o weithgareddau ystyrlon sy’n helpu i leddfu diflastod ac annog ymgysylltu, ac annog pobl ifanc i gyfranogi yn y gweithgareddau. 

Byddwch yn gweithio’n bennaf gyda defnyddwyr y gwasanaeth, yn eu cynorthwyo trwy gyfrwng gweithgareddau hamdden creadigol a therapiwtig, a byddwch hefyd yn aelod allweddol o dîm ehangach y Ward, yn cyfrannu at ofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Os ydych chi:

·         Yn gallu cynnig egni, brwdfrydedd ac agweddau cadarnhaol

·         Yn gallu ennyn diddordeb pobl ifanc trwy ddulliau creadigol a hyblyg

·         Yn mwynhau cydweithredu â defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr

·         Yn gallu addysgu gweithgareddau i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc sydd â galluoedd amrywiol

…byddai’n dda gennym gael ymateb gennych chi.

Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau beunyddiol pobl ifanc a’u hadferiad.

Amdanom ni:

Mae Ward Cudyllog yn Uned Gyffredinol ar gyfer Cleifion Mewnol sy’n cynnig 12 o welyau i bobl ifanc o ardaloedd Gogledd Cymru a Gogledd Powys. Rydym yn ymrwymo i barhau i ddatblygu ein gwasanaeth i gynnig gofal rhagorol a chydweithredol trwy gydweithio â defnyddwyr ein gwasanaeth, trwy gyfranogi mewn gweithgareddau, adfer a chael adborth ynghylch profiadau defnyddwyr y gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Derbynfa NWAS trwy ffonio 03000 850056 a gofynnwch am gael siarad ag aelod o Dîm Rheoli’r Ward.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 3 neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol
  • Profiad sylweddol mewn lleoliad addysg neu ofal iechyd neu brofiad mewn lleoliad CAMHS
  • NVQ Lefel 4 neu gyfwerth neu barodrwydd i gyflawni hynny o fewn 18 mis yn y swydd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gydag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl mewn lleoliad iechyd neu addysg.
Meini prawf dymunol
  • • Profiad o weithio gyda phobl ifanc rhwng 12-18 oed sydd ag anghenion cymhleth gan gynnwys Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a chyflyrau Niwrodatblygiadol.

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur.
  • Gwybodaeth am weithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant.
  • Sgiliau cydlynu a threfnu.
  • Sgiliau asesu risg a rheoli risg sylfaenol.
  • Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac ar y cyd.
  • Gallu defnyddio cyfrifiaduron.
  • Dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl â salwch meddwl.
  • A Ymwybyddiaeth sylfaenol o faterion sy’n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Gallu rheoli ei lwyth gwaith ei hun a phennu blaenoriaethau.
  • Gallu datrys problemau ac addasu i sefyllfaoedd newydd dan bwysau.
  • Dealltwriaeth o egwyddorion cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol.
  • Gallu pwyso a mesur ac arfarnu ei berfformiad ei hun yn feirniadol.
Meini prawf dymunol
  • • Mae Sgiliau'r Iaith Gymraeg yn lefelau dymunol 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen, a ysgrifennu yn Gymraeg
  • Profiad blaenorol o gynnal gweithgareddau grŵp
  • Gwybodaeth neu brofiad o weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector.
  • Profiad o weithio’n agos gyda phobl eraill a dirprwyo tasgau iddynt.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i gyfle cyfartal ac agwedd gadarnhaol a chynhwysol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd/gofalwyr.
  • Gallu cydymdeimlo â defnyddwyr gwasanaeth.
  • Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm.
  • Ymrwymiad i hyfforddi a datblygu a thystiolaeth barhaus o ddatblygiad personol.
  • Brwdfrydig a hunanysgogol.
  • Agwedd gadarnhaol tuag at iechyd meddwl.
  • Gallu bod yn hyblyg ac yn barod i addasu.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Meddu ar drwydded yrru ddilys a bod yn barod i ddefnyddio cerbydau’r ward i gludo defnyddwyr y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • • Mae Sgiliau'r Iaith Gymraeg yn lefelau dymunol 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen, a ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Keri Davidson
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg