Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthamig
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (NA)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS709-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymru (Theatr)
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ymunwch â’n tîm a chael y gefnogaeth yr ydych yn ei haeddu er mwyn i chi lwyddo o ran datblygu eich sgiliau gofal clinigol offthalmig. Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cefnogi Gofal Iechyd profiadol ymuno â’n tîm mewn cefnogi datblygiadau’r Gwasanaeth Offthalmoleg. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig ac ysgogol sydd â’r awydd i ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel a thystiolaeth amlwg a’r gallu i ddysgu a defnyddio sgiliau newydd o fewn ei faes gwaith. Mae profiad mewn gofal offthalmig diweddar yn hanfodol.
Mae’r rôl yn cynnwys arddangos sgiliau trefnu mewn rhedeg gwasanaethau’r I ddarparu gofal cleifion dan oruchwyliaeth uniongyrchol staff cofrestredig mewn theatr. Cyflawni rol yn unol a Gwerthoedd y Bwrdd lechyd / Ymddiriedolaeth a’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal lechyd yn g Nghymru.
Mae’r oriau gweithio yn amrywiol, gan fodloni anghenion gwasanaeth offthalmig a all, ar adegau, gynnwys gweithio dros y penwythnos.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd ag etheg waith gref i ddarparu gofal o safon ardderchog gyda’r gwerthoedd cywir ar gyfer y rôl hon. Bydd cynefino llawn ar gyfer y swydd hon yn cael ei gefnogi ac mae cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer datblygu mewn gyrfa a’r cyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol fel tynnu gwaed, a chofnodi arsylwadau clinigol offthalmig a chyffredinol yn dilyn hyfforddiant a galluedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Ymgymryg a thasgau fel y'u dirprwywyd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, yn unol a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan AaGIC.
- Cynnal gwiriadau diogelwch sylfaenol a pharatoi/cysylltu offer.
- Cefnogi trosglwyddo cleifion ac offer yn effeithiol.
- Cyflawni rol unigolyn sy'n cylchredeg dan oruchwyliaeth sy'n cyflenwi eitemau i'r maes di-haint a chefnogi prosesu sbesimenau yn ddiogel.
- Cynnal safonau uchel o lanweithdra a storio eitemau stoc yn bridol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 2 mewn Gofal neu yn gallu ymgymrud a chyfnod ymsefydlu a hyfforddiant yn y swydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig a gwaith
- Yn gallu deall a chydymffurfio a safonau ymsefydlu gorfodol a'd Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal lechyd yng Nghymru
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy'n ymwneud a gofal iechyd
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rol gofalu.
- Sgiliau Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Wansbrough
- Teitl y swydd
- Theatre Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 855223
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Uned Llygaid Stanley
Ysbyty Abergele
Abergele
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
