Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Tîm poen
- Gradd
- NHS AfC: Band 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC291-0726W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £26,300 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Swyddog Clerigol
NHS AfC: Band 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rhoi gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr lefel uchel, effeithlon, manwl-gywir a phrydlon i'r holl randdeiliaid gan roi cymorth yng ngweithrediad esmwyth y gwasanaeth.
Fel aelod o'r Tîm Gweinyddol, mae ymagwedd hyblyg at y swydd yn hanfodol er mwyn caniatáu blaenoriaethu'r llwythau gwaith a'r dyletswyddau gwahanol.
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Prif ddyletswyddau'r swydd
1. Paratoi rhestrau sesiynau dyddiol gan ddefnyddio system gyfrifiadurol briodol.
2. Canslo triniaethau ac aildrefnu rhestrau pan fydd cyfarwyddyd i chi wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â chleifion i roi gwybod iddynt am ganslo apwyntiadau ac aildrefnu rhestrau apwyntiadau clinigol.
3. Cadw nodiadau achos yn eich meddiant mewn cyflwr da a thrwsio nodiadau sydd wedi’u difrodi yn ôl yr angen.
4. Llunio nodiadau achos i gleifion newydd yn y clinig.
5. Casglu a dosbarthu nodiadau achos cleifion neu eitemau brys â llaw pan fydd angen i ardaloedd eraill yn yr ysbyty ac oddi yno.
6. Adennill a dychwelyd nodiadau achos ysbyty o adrannau eraill yn yr ysbyty pan fydd y staff meddygol yn gofyn am hynny.
7. Derbyn ymwelwyr a pherthnasau a'u cyfeirio mewn ffordd broffesiynol a chwrtais bob amser a helpu i ateb ymholiadau dros y ffôn.
8. Ar ôl i'r claf gyrraedd yr adran, esbonio'r broses gofrestru i'r claf ar sail un-wrth-un.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y disgrifiad swydd llawn a'r manyleb bersonol wedi'u cysylltu yn y dogfennau cynorthwyol
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- TGAU Mathemateg a Saesneg
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cyfrifiadurol da
English
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa/canolfan alwadau brysur yn delio ag aelodau o’r cyhoedd a staff ysbytai
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddiogelu Data a chyfrinachedd claf
English
Meini prawf hanfodol
- Ability to work to strict deadlines and prioritise tasks with minimal supervision
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau gweinyddu WPAS/Ysbytai
English
Meini prawf hanfodol
- Yn frwdfrydig, hyderus gydag agwedd gadarnhaol. Agwedd hyblyg tuag at ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Meini prawf dymunol
- Gallu cyfathrebu'n broffesiynol ac yn effeithiol gyda phob lefel o staff naill ai'n llafar neu'n ysgrifenedig
English
Meini prawf hanfodol
- Angen gallu siarad Cymraeg i Lefel Cymraeg 3 o leiaf
Meini prawf dymunol
- I weithio'n effeithiol o dan bwysau a chyrraedd terfynau amser
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Taylor
- Teitl y swydd
- Assistant Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 855190
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
