Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 19 mis (i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9-5 Dydd Llun-Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR611-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Talarfon
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cyfuniad CAMHS
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 19 mis i cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Swydd Gwynedd ac Ynys Mon: Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobol Ifanc – Gorllewin/Gwasanaeth Be Di’r Sgor
Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweinyddiaeth fel Ymarferydd Achosion sy'n Cyd-ddigwydd Cymunedol Arbenigol gan weithio'n agos gyda'r Timau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc yr ardal, er mwyn datblygu llwybr ar gyfer achosion sy'n cyd-ddigwydd mewn gwasanaethau'r cynghorau lleol. Bydd yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol er mwyn rhoi Llwybr Fframwaith Achosion sy'n Cyd-ddigwydd ar waith, a'i fonitro a'i reoli ar draws CAMHS a Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Plant a Phobl Ifanc.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb i gynnal llwyth gwaith clinigol a fydd yn cynnwys gosod a chadw safonau clinigol o fewn y fframwaith llywodraethu, cymell ac arwain aelodau o wasanaethau CAMHS a SMS i gyrraedd targedau clinigol, iechyd a fframwaith achosion sy'n cyd-ddigwydd penodol. Bydd amser wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau CYPSMS, gan sicrhau hyblygrwydd ar draws y ddau wasanaeth i fynd i'r afael ag anghenion a galw. Bydd hwn yn ddull synnwyr cyffredin, gan gynnwys rhaniad o 50/50 neu 60/40 ar draws y gwasanaethau. Cytunir ar hyn yn lleol a chaiff ei adolygu fel y bo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Cofrestredig (NMC), Iechyd Meddwl. NEU • Gweithwyr Cymdeithasol cofrestredig gyda'r Cyngor Gofal. NEU • Therapydd Galwedigaethol cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd. Tystiolaeth o ddatblygiad personol ac clinigol. Tystiolaeth o hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer goruchwyliaeth a dysgu staff ifanc. Gwybodaeth eang am faterion iechyd meddwl. Gwybodaeth a chymhwysiad cyfredol o ganiatâd, diogelu data, cyfrinachedd cleifion a rheoli risg yn ogystal ag ymholiadau Iechyd a Diogelwch. Gwybodaeth weithredol gyfredol am y Ddeddf Iechyd Meddwl. Gwybodaeth am strategaethau cenedlaethol perthnasol. Tystiolaeth o ddealltwriaeth a gwybodaeth yn ymwneud â datblygiad plant.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad cofrestru perthnasol o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol neu sefyllfa iechyd meddwl
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nichola Thompson
- Teitl y swydd
- Team Lead
- Rhif ffôn
- 03000850037
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector