Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cancr
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC617-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Traciwr/Clerc Canser
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rôl y Traciwr/Clerc Canser yw cymryd camau rhagweithiol i sicrhau datblygiad taith y claf canser o bwynt amheuaeth canser drwy'r llwybr ddiagnosis hyd at ddiagnosis a thriniaeth neu at y pwynt ble nad oes gan y claf amheuaeth o ganser mwyach (h.y israddio) yn unol â chanllawiau a gofynion targed Llywodraeth Cymru. Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Cydlynwyr/Tracwyr MDT Canser a Thîm Rheoli Gwasanaethau Canser, gan gysylltu â Staff Gweinyddol a Chlercyddol i ddatblygu llwybr a sicrhau amserlen. Dynodi cyfyngiadau a'u hamlygu i staff Gwasanaethau Canser, gan gysylltu ag adrannau sy'n rhan o ddarparu gwasanaethau gofal a gwasanaethau craidd, gan sicrhau bod camau arfaethedig yn y llwybr diagnosteg yn symud yn ei flaen yn esmwyth ac yn brydlon gyda'r diben cyffredinol o sicrhau diagnosis prydlon i gynorthwyo gyda chyflawni targedau canser Llywodraeth Cymru a chanlyniadau a goroesi cadarnhaol cleifion.
Delio ag ymholiadau cyffredinol i Swyddfa Gwasanaethau Canser, mewnbynnu data ar gronfa ddata canser a darparu dyletswyddau swyddfa cyffredinol a chefnogaeth i Gydlynwyr Canser, Arweinydd Tîm Canser a Rheolwr Gwasanaethau Canser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Canser yn Ysbyty Gwynedd Clwyd fel Clerc/Olrheiniwr Canser. Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ysgogol i ymuno â’n tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos ag Olrheinwyr/Cydlynwyr y Tîm Amlddisgyblaethol Canser a’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Canser gan gymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod llwybrau cleifion canser yn datblygu yn unol â gofynion a chanllawiau targedau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â rhoi cefnogaeth weinyddol o lefel uchel i’r adran.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am derminoleg feddygol
- Gwybodaeth TG dda (ECDL neu gyfwerth)
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG (Microsoft Applications)
- Sgiliau Trefnu
- Cyfathrebu Da
Meini prawf dymunol
- Yr Iaith Gymraeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn swyddfa
- Profiad o weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Hunanysgogol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Harriet Rees
- Teitl y swydd
- Manager, Cancer Services West
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841150
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fwy o fanylion / ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â
Harriet Rees (03000 841150) Rheolwraig
Ffion Hughes (03000 841155) Arweinydd Tím
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector