Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Cyfnod Penodol: 15 mis (Oherwydd cyllid)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP148-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapi G5
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENNODOL/SECONDIAD AM 15 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Croesawir ceisiadau gan Ffisiotherapyddion Gradd 5 newydd a phresennol.
Mae cyfle wedi codi i weithio fel Ffisiotherapydd Gradd 5 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, o fewn y tim Orthopedeg.
Mae hwn yn rol am gyfnod penodol gyda’r cywaith tori clyn INITIATE.
Mae gwasanaeth ffisiotherapi BIPBC yn cynnig llwybr gyrfa gyfan i Radd 8A fel uwch ymarferydd clinigol. Mae gwelliannau a datblygiad gwasanaeth yn cael ei annog ac mae gan yr holl staff fynediad at oruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd.
Mae hyn yn gyfle i weithio mewn tîm cefnogol a sefydledig mewn rhan hardd o'r DU.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Asesu a thrin cleifion o lwyth achosion dynodedig, efallai y bydd gan rai ohonynt broblemau corfforol a seicolegol.
Darparu diagnosis a chynllunio a chyflwyno rhaglen triniaeth unigol.
Bod yn gyfrifol am eich llwyth achosion eich hun gan weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Ymgymryd â phob agwedd ar ddyletswyddau clinigol fel ymarferydd annibynnol.
Sicrhau safon uchel o ofal ar gyfer pob claf sy’n gweithio gyda chleifion, teuluoedd neu ofalwyr, timau aml-asiantaeth a disgyblaethau dan sylw.
Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn ffisiotherapi.
- Cofrestriad HCPC.
Meini prawf dymunol
- Aelod o CSP
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod eang o leoliadau clinigol yn ystod hyfforddiant.
- Profiad blaenorol yn amgylchedd y GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad gwaith cyn cofrestru mewn maes perthnasol
- Profiad blaenorol yn orthopedig
- Previous experience in hip arthroplasty management
Medrau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu mewn ffordd broffesiynol.
- Sgiliau sylfaenol o ran asesu a datrys problemau.
- Yn gallu arfarnu llenyddiaeth ymchwil yn gritigol.
- Gallu defnyddio cyfrifiadur
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth am rolau’r GIG gan gynnwys Cynorthwywyr/T.I.
- Gweithio amlddisgyblaethol/ asiantaeth
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth am y broses archwilio
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i symud rhwng adrannau a safleoedd yn brydlon
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Simon Cooper
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Physiotherapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841884
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector