Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddol a Chlerigol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: Dydd Sadwrn 8am - 2pm- 6 hrs
- Oriau
- Rhan-amser - 6 awr yr wythnos (6 awr ar ddydd Sadwrn)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC132-0225-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Swyddog Mynediad at Gofnodion Iechyd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Gweithio'n agos gyda'n Gwasanaeth Cofnodion Iechyd i gyflawni amcanion penodol i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn yn unol â'r canlynol; Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990, a Gweithdrefn Rheoli Cofnodion Iechyd BIPBC.
Prosesu ceisiadau mynediad pwnc o'r dechrau i'r diwedd a dderbynnir yn y Gwasanaeth Mynediad Canolog i Gofnodion Iechyd (ATHR) gan sicrhau y glynir at ofynion deddfwriaethol yn unol â'r gweithdrefnau ATHR. Sicrhau bod unrhyw oedi yn cael ei gyfeirio yn briodol mewn modd amserol er mwyn galluogi cydymffurfio â'r amserlen ddeddfwriaethol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am 'brosesu' yr holl ddogfennau cysylltiedig ynghylch priodoldeb ceisiadau; sicrhau bod caniatâd priodol a gwiriadau adnabod yn eu lle; a bod prosesau yn gyson, yn dryloyw ac yn cydymffurfio yn gyfreithiol.
Cefnogi'r gwaith o reoli'r broses sicrhau ansawdd i sicrhau bod yr holl ymatebion a ddarperir yn cydymffurfio â deddfwriaeth, e.e. comingling, redaction, trydydd parti, cymhwyso eithriadau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth gyffredinol o Reoliadau Cyffredinol Diogelu Data (GDPR)2018, Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd1990
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am gyfnodau cadw a dinistrio cofnod
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda phecynnau Microsoft
- Profiad gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid blaenorol
Meini prawf dymunol
- Profiad GIG
Arall
Meini prawf dymunol
- Y gallu i wneud ymdrech corfforol ysgafn/canolig wrth drin nodiadau achos a throlïau
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Susan Jeffrey
- Teitl y swydd
- Health Records Ass. Site Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 846109
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector