Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Treialon Clinigol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen)
Cyfeirnod y swydd
050-PST102-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferyllfa - Treialon Clinigol

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle ardderchog i dechnegydd fferyllfa profiadol ymuno â Gwasanaeth Treialon Clinigol ym maes Fferylliaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r rôl yn rhan o seilwaith ymchwil cynyddol sy'n rhoi cymorth gydag ystod eang o astudiaethau, gan gynnwys y rhai a gynigir trwy Ganolfan Canser Gogledd Cymru.

Fel rhan o dîm arbenigol, byddwch yn cyflawni rôl allweddol o ran cydlynu a chyflawni'r agweddau technegol ar dreialon clinigol, gan gydweithio â thimau fferylliaeth, ymchwil, a chlinigol. Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau technegol, arwain a datblygu gwasanaeth uwch o fewn maes ymarfer hynod arbenigol a gwerth chweil.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cydlynu ac yn cyflawni'r agweddau technegol ar y gwasanaeth treialon clinigol ym maes fferylliaeth, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau'n cael eu cynnal yn unol ag Arfer Clinigol da, Arfer Gweithgynhyrchu Da, a gweithdrefnau lleol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi cymorth o ran paratoi treialon, cynnal dogfennaeth ar gyfer astudiaethau, rheoli archebu, storio, a rheoli stoc IMP, a sicrhau bod cofnodion manwl-gywir yn cael eu cadw a bod atebolrwydd o ran cyffuriau. Byddwch yn ymgysylltu â thimau amlddisgyblaethol, noddwyr, a staff ymchwil i hwyluso gweithrediad esmwyth treialon clinigol ac i ddatrys materion gweithredol.

Mae profiad aseptig yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, gan y bydd gofyn i chi weithio gyda meddyginiaethau sydd wedi'u paratoi'n aseptig ac i roi cymorth o ran gweithredu, paratoi, trin, a chynnal dulliau rheoli ansawdd o ran cynhyrchion risg fawr, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir o fewn treialon oncoleg. Byddwch hefyd yn cyfrannu at hyfforddi staff, datblygu dulliau gweithredu safonol, a gweithgareddau gwella ansawdd. Mae'r rôl yn gofyn am graffter, galluoedd arwain, a'r gallu i reoli blaenoriaethau deinamig o fewn gwasanaeth deinamig ac esblygol.

 

Sylwch fod y swydd hon yn cynnwys cymryd rhan yn rota'r penwythnos a gwyliau'r banc er mwyn rhoi cymorth i'r gwasanaeth Fferylliaeth ehangach.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person o fewn dogfennau ategol neu cliciwch "Apply Now" i'w weld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Technegydd Fferyllfa Cofrestredig â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllfa (QCF) neu gyfatebol.
  • Cymhwyster Cenedlaethol Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig WCPPE
  • Cymhwyster rheoli lefel 3 neu barodrwydd i weithio tuag ato
  • Gwybodaeth eang am weithdrefnau technegol fferyllol hyd at lefel gradd neu lefel cyfatebol wedi'i hennill trwy hyfforddiant neu brofiad ymarferol.
  • Gwybodaeth dda am GCP a rheoliadau treialon clinigol.
  • Gwybodaeth dda am reoliadau COSSH.
  • Gwybodaeth dda am GMP.
  • Wedi dilyn cwrs paratoadau aseptig a dosbarthu meddyginiaethau (APDM)
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o Gymdeithas broffesiynol berthnasol
  • Hyfforddiant treialon clinigol perthnasol
  • Aseswr NVQ achrededig
  • Cymhwyster rheoli

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid gallu dangos lefel addas o brofiad ôl-gymhwyster mewn gwasanaethau aseptig.
  • Dealltwriaeth dda o weithredu gwasanaethau fferyllfa ysbyty
  • Profiad o weithio gyda deunydd radiofferylliaeth
  • Profiad o reoli personél
  • Gweithio mewn gwasanaeth dosbarthu fferyllfa ysbyty
Meini prawf dymunol
  • Profiad o systemau meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar gleifion

Addasrwydd / Galluoedd / Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol ag amryw o ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Tystiolaeth o sgiliau cofnodi da.
  • Gallu gweithio dan bwysau/yn unol ag amserlenni.
  • Tystiolaeth o fentora hyfforddeion yn effeithiol.
  • Gallu i reoli newid.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samantha Huntley
Teitl y swydd
Pharmacy Hospital Operations Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845 393
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg