Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dermatoleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 16 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR653-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Glinigol Arbenigol Dermatoleg
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs Glinigol Arbenigol mewn dermatoleg ymuno â'n tîm ar sail rhan-amser barhaol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chymhelliant uchel, deinamig a meddwl ymlaen llaw i ymuno â'n hadran dermatoleg brysur sy'n cynnwys dermatolegwyr ymgynghorol, meddygon arbenigol, nyrsys ac ymarferwyr arbenigol, ac ysgrifenyddion meddygol.
Byddwch yn gweithio fel ymarferydd ymreolaethol i ddarparu gofal cymhleth ac arbenigol, gan sicrhau bod cleifion yn cael eu cefnogi mewn modd cyfannol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos arbenigedd clinigol ac yn cymhwyso ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion â chyflyrau dermatoleg acíwt a chronig ac mewn lleoliad cleifion mewnol ac allanol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymarferydd arbenigol mewn nyrsio dermatoleg, yn darparu cymorth clinigol ac addysgol o fewn y bwrdd iechyd.
Byddant yn darparu gofal unigol o safon uchel yn seiliedig ar dystiolaeth, sydd ei angen ar gleifion sydd â phob math o broblemau dermatolegol.
Bydd hon yn swydd Nyrsio dermatolegol gyffredinol gyda chyfrifoldebaungan gyfrifol am rheoli a darparu gwasanaeth arbenigol i gleifion sydd â chlefyd cronig ac acíwt a chronig mewn lleoliad clefion mewnol ac allanol.
Bydd hefyd yn cynnwys asesu ar rheoli clefion ag wlserau coes, briwiau croen cyn-ganseraidd a chanseraidd yn ogystal a chefnogi roundiaw ward ymgynghorwyr. Mae hyn yn golygy rheoli llwuth gwait clinicol uchel wrth ddarparu cefnogaeth glinigol, gymdeithaso a secolegol I’r cleifion gan eu galluogi trwy addysg a hyrwyddo iechyd I gyrraedd eu lefel rau o annibyniaeth ac iechyd.
Bydd deiliad y swydd hefyd un ddarparu cefnogaeth ac addysg I withwry gofal iechyd professyynol eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person wedi'u hatodi o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- BSC mewn Nyrsio
- Gradd MSc neu’n barod i ymgymryd â hynny
- Nyrs nad yw'n rhagnodi'n annibynnol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol gan gynnwyd profiad rheoli ac arwain
- Bod yn agored i wybodaeth a sgiliau dermatoleg / hyfywedd meinwe
Skills
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu Effeithiol â chleifion, gofalwyr ac aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol
- Rheoli clwyfau a rhwymo
- Sgiliau trefnu rhagorol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Deall Gwasanaethau Gofal Sylfaenol
- Deall/ymwneud â rheoli risg a materion iechyd a diogelwch, amddiffyn plant ac amddiffyn oedolion agored i niwed
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Agwedd gadarnhaol . Agwedd hyblyg at waith . Gallu ymateb ac addasu i anghenion sy’n newid yn yr adran . Gwybod pryd i ofyn am gymorth priodol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lindsey Barber
- Teitl y swydd
- Dermatology Specialist Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector