Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 20 awr yr wythnos (Yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am tan 1:00pm neu 8:00am tan 12:00pm, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC427-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cymhorthydd Clercyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Cynorthwyydd Clerigol
Mae swydd Cynorthwyydd Clerigol ar gael i weithio 20 awr yr wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer y Tîm Cyfleusterau. Yr oriau gwaith fydd 9am tan 1pm neu 8am tan 12pm, yn ôl anghenion y gwasanaeth, dydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd deiliad y swydd yn aelod effeithiol o’r tîm clerigol ac yn cynorthwyo gyda darpariaeth gwasanaeth clerigol a chefnogi swyddfa cynhwysfawr i dîm Cyfleusterau lleol, gan gefnogi eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd i sicrhau bod blaenoriaethau’n cael eu cyflawni’n gywir, yn amserol ac yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys Gwasanaethau Arlwyo, Gwasanaethau Glanhau, a Gwasanaethau Cludiant (Portering).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bod yn aelod effeithiol o'r tîm clercyddol a chynorthwyo gyda darpariaeth gwasanaeth cefnogi swyddfa a chlercyddol cynhwysfawr i'r tîm Cyfleusterau sydd yn yr ardal leol, gan gefnogi eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu darparu'n gywir, yn amserol ac yn effeithiol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol o cliciwch "Gwneud Cais Nawr" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- ECDL neu brofiad cyfatebol o weithio gyda Phecynnau Microsoft i gynnwys Excel a word.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddefnyddio cronfeydd data.
- Y gallu i weithio i amserlenni/terfynau amser y cytunwyd arnynt.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG.
Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r GIG.
Personal Qualities
Meini prawf hanfodol
- Hyblyg ac addasadwy.
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith eu hunain yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith eu hunain yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthynas ag amrywiaeth eang o unigolion ac o fewn grŵp. Sgiliau rhifo rhagorol, llafar ac ysgrifenedig. Sgiliau cyfathrebu rhagorol. Gallu gweithio mewn swyddfa brysur yn amgylcheddol ac yn delio â nifer o dasgau gwahanol. Y gallu i flaenoriaethu.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am strwythurau a phrosesau'r GIG.
Other Relevant Requirements
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio o dan bwysau. Y gallu i weithio fel rhan o dîm. Y gallu i ateb ffôn yn ddwy-ieithog. Y gallu i gynnal cyfrinachedd. Dull hyblyg tuag at ofynion y gweithle.
Welsh Language Requirements
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i sicrhau lefel y cytunwyd arni o sgiliau gwrando a siarad Cymraeg o fewn cyfnod penodedig o amser.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Peter Bell
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000846283
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
