Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymorth Maethol
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 20 mis (i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR460-0725-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arbenigwr Nyrsio Clinigol Cymorth Maethol

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 20 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH GYDA'R POSIBILRWYDD O GONTRACT BARHAOL OHERWYDD YMDDEOLIAD A CHYNLLUNIO OLYNIAETH O FEW TÎM CNSNS.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Band 6 Cymorth Maeth CNS (CNSNS) i gefnogi gwasanaeth nyrsio ar gontract tymor penodol i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth. 

O dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd Cymorth Maeth y CNS, bydd deiliad y swydd yn gweithio fel aelod effeithiol o’r NSNS a’r Tîm Cymorth Maeth (NST) ar gyfer y Bwrdd Iechyd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Hanfod y swydd hon yw ei natur ymarferol i ddarparu cyngor arbenigol gofal clinigol uniongyrchol ac anuniongyrchol ar reoli cymorth maeth yn effeithiol. Mae'n cynnwys cyswllt clinigol â chleifion (gan gynnwys teuluoedd, gofalwyr ffurfiol ac anffurfiol), Nyrsio, meddygol a phroffesiynau sy'n gysylltiedig â chymorth iechyd y Bwrdd Iechyd i gynnal a gwella gofal maethol ar draws Gogledd Cymru. Yn aelod annatod o’r tîm nyrsio a’r tîm cymorth maeth (NST) ym mhob rhanbarth ac ar draws Gogledd Cymru, bydd deiliad y swydd yn cefnogi integreiddio a chynnal Llwybr Maeth Cymru Gyfan. Mae nodi meysydd i’w gwella sy’n gysylltiedig â chymorth maeth artiffisial arbenigol a chynnal gwerthoedd BIPBC ynghylch ansawdd a diogelwch yn allweddol i lwyddiant y rôl.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Gofynion yn ymwneud a'r Gymraeg

Meini prawf dymunol
  • Byddai rhuglder mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar o fantais arbennig

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • RGN
  • Gradd mewn maes perthnasol
  • Cymhwyster Lefel Efydd mewn Gwella Ansawdd
  • Cymhwyster dysgu ac asesu
  • Siart cofnodi bwyd E-ddysgu
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Lefel Arian mewn Gwella Ansawdd
  • Cwrs datblygu arweinyddiaeth
  • ECDL
  • Yn fodlon ymgymryd â gradd meistr/modiwlau ar lefel gradd meistr

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad digonol ar ôl Cofrestru
  • Prawf o brofiad o ddatblygu a chyflwyno gwelliannau yn eich maes/meysydd gwaith eich hun
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddi unigolion

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn am werthoedd a chredoau BIPBC, cymhwyso llwybr maethol Cymru gyfan.
  • Defnyddio mesuriadau/cylchoedd archwilio i wneud newidiadau positif i arfer
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am hyd a lled cymorth maethol artiffisial

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Angerdd a thrugaredd tuag at gleifion a chydweithwyr, gydag awydd i wneud gwahaniaeth a gwella profiad a chanlyniadau i gleifion
  • Ymddangosiad hynod broffesiynol, delfryd ymddwyn credadwy
Meini prawf dymunol
  • Yn aelod o gymdeithas broffesiynol berthnasol e.e. BAPEN / NNNG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn fedrus o ran sgiliau TG gan ddefnyddio ystod lawn o raglenni cyfrifiadurol e.e. Word, Excel, PPT a chronfeydd data; gallu llunio adroddiadau gan ddefnyddio TG i ddangos gwaith a wnaed a'i arddangos gan ddefnyddio profion a dadansoddiadau ystadegol priodol.
  • ANTT
  • Gofal clwyfau ac asesiadau cysylltiedig
  • Cymhwyster trwy hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol o ran gosod NGT a gofal yn hynny o beth.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster mewn ystod o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â gofal gastrostomi e.e. newid gastrostomi wrth ymyl y gwely
  • Cymhwyster i roi PN fel therapi - gofal mewnwythiennol ANTT, cydbwysedd o ran hylifau a rheoli electrolytau
  • Tynnu gwaed Gosod caniwla mewnwythiennol / gosod dyfeisiau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ruth Davies
Teitl y swydd
Nutrition Nurse Specialist Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 846602
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg