Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Obstetreg a Gynacoleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos - Dydd Llun a Dydd Mawrth)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC455-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 Y Flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ysgrifenyddes Colposcopi
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol a gweinyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer y meddyg ymgynghorol a'i dîm meddygol, a thimau nyrsio arbenigol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Cydlynu trefniadau a'u cynnal i hwyluso cynnydd cleifion ar hyd llwybr diffiniedig yn unol â Sgrinio Serfigol Cymru. I gynnal y sefydliad colposcopi ac i fonitro'r llwyth gwaith o ran y tîm gweinyddol, cydlynu staff i gyflenwi yn ystod cyfnodau o absenoldeb ar draws y tîm.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio gyda'r tîm, bydd deilydd y swydd yn cefnogi'r dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi cael eu pennu am bob arbenigedd a bydd yn gwneud penderfyniadau o ran blaenoriaethu llwyth gwaith ac yn cytuno ar weithdrefnau uwch gyfeirio er mwyn bodloni'r dangosyddion perfformiad allweddol hyn. Cyfleu'r canfyddiadau hyn, a bod yn rhagweithiol wrth symud argymhellion a gwelliannau i ddarparu gwasanaeth yn eu blaen.
Bydd deilydd y swydd yn delio â gohebiaeth berthnasol, ymholiadau ffôn neu wyneb yn wyneb yn effeithlon ac yn effeithiol.
Cyfrannu at brosiectau neu ddyletswyddau i sicrhau darparu gwasanaeth yn rhagorol fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr llinell, Meddyg Ymgynghorol neu gydweithwyr eraill.
Bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth o ran hyfforddi dechreuwyr newydd a datblygu aelodau'r tîm ysgrifenyddol gan hybu a meithrin perthnasau cadarnhaol yn y tîm ysgrifenyddol meddygol, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth a phob un o weithwyr PBC.
Pan fo'n berthnasol, gallu cydlynu dyletswyddau a thasgau'n annibynnol gan y gallai ysgrifenyddion Meddygol fod mewn lleoliadau gwahanol ar draws y Bwrdd Iechyd.
Gweithio gyda'r rheolwr llinell i gychwyn/cymeradwyo gweithdrefnau uwch gyfeirio safonau'n is na lefel foddhaol a chytuno ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol newydd dros dro.
Bydd disgwyl i'r deilydd swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol i sicrhau bod darparu gwasanaeth yn cael ei gynnal
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ 4 mewn Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfatebol
- City & Guilds (AMSPAR) Diploma Lefel 3 mewn gweinyddu neu brofiad ysgrifenyddol meddygol cyfwerth
- RSA/OCR lefel 3 neu brofiad cyfwerth neu gymhwyster mewn teipio
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli neu'n gweithio tuag ato
- NVQ 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- ILM Lefel 2 (neu'n gweithio tuag ato) cymhwyster cyfwerth perthnasol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau teipio uwch
- Sgilau trefnu ardderchog
Meini prawf dymunol
- Profiad GIG blaenorol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth a'r gallu i ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am broses Cyfeirio at Driniaeth (RTT)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachael Thistleton
- Teitl y swydd
- Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845303
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector