Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Patholeg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Yn cynnwys gwaith shiftiau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HS045-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Patholeg BCUHB - Haematoleg & Trawllwysiad
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Gwyddonydd Biofeddygol - Haematoleg & Trawllwysiad
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Cyfle i fand 6 BMS profiadol i gefnogi gwasaneth Haematoleg & Trallwysiad 24/7.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel Gwyddonydd Biofeddygol bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio o fewn y safonau proffesiynol disgwyliedig gan un wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC) a chynnal portffolio o dystiolaeth sy’n cefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaol (CPD).
Bydd dyletswyddau Gwyddonydd Biofeddygol yn cynnwys gwneud ystod o weithdrefnau gwyddonol sy’n golygu prosesu samplau biofeddygol i gyfrannu at wneud diagnosis o glefydau, eu trin a'u monitro ac ymchwilio i brosesau patholegol.
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gweithdrefnau gweithredol safonol a gytunwyd, polisïau ac arfer da labordy a hefyd i weithio o fewn dyletswyddau eu gwaith, cydymffurfio â safonau angenrheidiol Achrediad Patholeg Glinigol (y D.U.) a chyrff proffesiynol a deddfwriaethol perthnasol eraill (e.e. H.T.A., B.S.Q.R.).
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu goruchwylio a hyfforddi eraill
- Arbenigwr mewn morfoleg a parasitoleg
- Arbenigwr mewn ymarfer trallwysiad
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da
- Sgiliau rhyngbersonol a trefnu da
- Profiad yn cynnal sesiynau 'CPD'
Meini prawf dymunol
- Hyblyg i batrwm gweithio
- Gweithio fel rhan o dim yn dda
- Yn gallu gweithio mewn adran arbenigol yn cynnwys profion 'Lupus / Thrombophilia'
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- BSc mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol neu gyfatebol
- Ar gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd fel Gwyddonydd Biofeddygol
- Portffolio BMS arbenigol sy’n berthnasol i’r gwasanaeth/au dan sylw – neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- Gallu darparu tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ymchwiliadau a gweithdrefnau labordy â llaw ac awtomatig mewn Hematoleg & Trallwysiad
- Profiad o weithio shiftiau tu allan i oriau
- Profiad o weithio efo 'Trakcare LIMS'
- Profiad o weithio efo Blood Track
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain tîm
- Profiad o ddirprwyo pennaeth pan yn absenol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ei Shwe Zin Tint
- Teitl y swydd
- Senior Biomedical Scientist - Haematology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844831
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
