Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan mewn darparu gwasanaeth fferyllfa oriau estynedig)
Cyfeirnod y swydd
050-PST084-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferyllfa

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Dechnegydd Fferylliaeth brwdfrydig a chydwybodol gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu da i ymuno â’n tîm fferyllol cyfeillgar.

Rydym yn chwilio am y rhinweddau personol iawn cymaint â phrofiad blaenorol.

Bydd eich rôl yn cynnwys cyflawni dyletswyddau yn y fferyllfa, ar lefel ward gan gefnogi'r timau fferylliaeth ar y ward ac yn ein Huned Gynhyrchu drwyddedig gan yr MHRA. Darperir hyfforddiant llawn yn yr holl feysydd hyn.

Rydym wedi ymrwymo i DPP ar gyfer ein holl staff a'n nod yw rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau bod eich anghenion unigol yn cael eu diwallu. Mae rôl y technegydd fferyllol yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn yr adran a bydd cyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol i’ch galluogi i ddatblygu o fewn y rôl.

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n ymgymryd â'u cymhwyster ar hyn o bryd ac sydd i fod i gofrestru gyda'r naill gorff proffesiynol neu'r llall o fewn y 6 mis nesaf wneud cais hefyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cyflawni amrywiaeth eang o ddyletswyddau arferol ac anarferol mewn perthynas â pharatoi a chyflenwi meddyginiaethau a chynhyrchion cysylltiedig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth o fewn BIPBC.

Disgwylir i Dechnegwyr Fferylliaeth arfer rhywfaint o ymreolaeth a rheolaeth wrth gyflawni dyletswyddau a neilltuwyd o fewn terfynau a osodwyd gan yr Uwch Dechnegydd Fferylliaeth sy'n goruchwylio'r adain ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau adrannol.

Byddwch yn cysylltu â staff fferyllol ym mhob sector a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod gwasanaeth rheoli meddyginiaethau sy’n canolbwyntio ar y claf yn cael ei ddarparu. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr fferyllol i fabwysiadu dull tîm o reoli meddyginiaethau, gan weithredu fel aelod allweddol o’r tîm fferylliaeth amlddisgyblaethol ac ehangach, gan ddarparu cyngor rheoli meddyginiaethau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a gofalwyr.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Technegydd Fferyllfa Cofrestredig â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllfa neu gyfatebol
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant rheoli meddyginiaeth
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o Gymdeithas broffesiynol berthnasol
  • Asesydd NVQ achrededig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Dosbarthu cyffredinol
  • Gwybodaeth sylfaenol o ddefnydd therpiwtig cyffuriau
  • Dealltwriaeth dda o weithredu gwasanaethau fferyllfa ysbyty
Meini prawf dymunol
  • Profiad o systemau meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar gelifion
  • Gweithio mewn gwasanaeth dosbarthu fferyllfa ysbyty

Cymhwster a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol ag amryw o ddefnyddwyr gwasanaeth
  • Gallu defnyddio IT i ddefnyddio'r system fferyllfa, cynhyrchu adroddiadau, casglu data a'i ddadansoddi, a chynhyrchu cyflwyniadau
  • Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun, ac yn gweithio o fewn y cyfyngiadau hynny
  • Sgiliau cyfathrebu da
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Rheoli Meddyginiaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan mewn darparu gwasanaethau Fferyllol oriau estynedig, ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus
Meini prawf dymunol
  • Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jessica Knowles
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Technician - Dispensary
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845421
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg