Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Secondiad: 12 mis (i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST091-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferylliaeth

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Dyma gyfle cyffrous ar gyfer Technegydd Fferyllfa rheoli meddyginiaethau band 5 brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â'n tîm fferylliaeth yn y Lolfa/Hwb Rhyddhau.

Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at wasanaethau Rheoli Meddyginiaethau yn Ysbyty Glan Clwyd gyda ffocws ar ryddhau diogel, effeithiol ac amserol trwy gydweithio â'n tîm lolfa/hwb rhyddhau. Bydd ymgysylltu amlddisgyblaethol, cwnsela cleifion a darparu gwybodaeth am feddyginiaethau yn arbennig o allweddol i'r rôl yma.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am Dechnegydd Fferyllfa blaengar a rhagweithiol gyda sgiliau datrys problemau cryf. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunan-gymhellol ac yn drefnus. Byddwch yn medru gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm a chyfrannu at y broses o ddatblygu gwasanaethau ac arloesi ar eich menter a’ch brwdfrydedd eich hun.

Byddwch yn gweithredu fel eiriolwr dros wasanaethau fferyllol ac yn warcheidwad diogelwch meddyginiaethau. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol a meithrin perthynas da.

Bydd yr ymgeisydd iawn yn cael y cyfle i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach trwy gyfleoedd datblygu a gefnogir gan ein tîm cyfeillgar a phrofiadol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Technegydd Fferyllfa Cofrestredig â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllfa (QCF) neu gyfatebol.
  • Cymhwyster Cenedlaethol Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig
  • Cymhwyster Rheoli Meddyginiaethau Achrededig Cenedlaethol neu'n gweithio tuag ato

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid gallu dangos lefel briodol o brofiad.
  • Dosbarthu cyffredinol
  • Gweithio mewn gwasanaeth dosbarthu fferyllfa ysbyty
  • Gwybodaeth sylfaenol o ddefnydd therapiwtig cyffuriau

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu defnyddio TG i ddefnyddio'r system fferyllfa, cynhyrchu adroddiadau, casglu data a'i ddadansoddi, a chynhyrchu cyflwyniadau.
  • Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun, ac yn gweithio o fewn y cyfyngiadau hynny.
  • Gallu trefnu eich llwyth gwaith eich hun, a chefnogi llwyth gwaith yr adran.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Yn llawn cymhelliant, yn ddibynadwy ac yn drefnus.
  • Gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm
  • Brwdfrydedd tuag at hyfforddiant
  • Ymrwymiad i hunan astudio a hunan ddatblygu
Meini prawf dymunol
  • Yn deall anghenion cleifion ac yn ymateb iddynt

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gofynion arbennig i wneud y swydd e.e. gallu teithio o fewn ardal ddaearyddol.
  • Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Lyons
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Techncian
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845364
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jessica Knowles - Senior Pharmacy Technician

[email protected]

03000 845421

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg