Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Penodol: 8 mis (oherwydd cyfnod mamolaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS785-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Fferyllfa
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Rydym yn chwilio am unigolyn hunangymhellol, sydd yn canolbwyntio ar y claf a’r gwasanaeth, i ymuno â'n tîm cyfeillgar o Gynorthwy-ydd Fferyllfa sy'n gweithio ar draws ardaloedd y Dderbynfa, y Ddosbarthfa a Storio a Dosbarthu yn yr adran.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys gweithio yn dderbynfa y fferylla, ail-lenwi stoc i’r wardiau, cynnal a chadw stoc megis gwiriadau stoc dyddiol a derbyn nwyddau, ffeilio a thasgau cadw cadw tŷ cyffredinol. Dylech chi fod â sgiliau trefnu a chyfathrebu da, llygad am fanylion, a'r gallu i amldasgio a gweithio'n fanwl gywir mewn amgylchedd prysur.
Byddai profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad tebyg a phrofiad chyfrifiaduron yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol, gan y darperir hyfforddiant llawn.
Am ragor o wyboaeth am y swydd hon, cysylltwch â Jessica Knowles neu Alistair Fisher ar 03000 844070.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllfa neu barodrwydd i ymgymryd â chyflawni NVQ Lefel 2 o fewn 12 mis o gael ei benodi
- Gradd llwyddo ar lefel TGAU neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg (Iaith)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweithio fel rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Profiad fferyllol mewn ysbyty, cymuned neu arall
- Profiad o wasanaethau cwsmeriaid
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Gweithio o fewn eich cyfyngiadau eich hun
- Gwybodaeth sylfaenol o systemau cyfrifadurol
- Gwybodaeth sylfaenol o systemau cyfrifadurol
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Gallu addasu i newid a gweithio’n dda ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
Arall
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Knowles
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844070
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Marie-Louise Lewis
Alistair Fisher
03000 844070
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
