Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP247-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- IHC Canol BIPBC
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Cylchdro
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Croesewir ceisiadau gan Ffisiotherapyddion Band 5 newydd a rhai presennol.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio fel Ffisiotherapydd Band 5 wedi'i leoli yn Ardal Ganolog BIPBC (Conwy a Sir Ddinbych).
Mae rhestr gynhwysfawr o gylchdroadau wedi'u cynnwys o fewn y rôl, mae'r rhain yn cynnwys:
MSK
Tîm Meddygol Acíwt
Anadlol
Niwro: Strôc acíwt, adsefydlu strôc.
Timau Adnoddau Cymunedol
Trawma ac Orthopedig
Adsefydlu mewn Ysbytai Cymunedol
Pediatreg
Adsefydlu Ysgyfeiniol
Fasgwlaidd
Bydd y rhai Band 5 yn ymuno â thîm arloesol cefnogol mawr. Mae rhai cylchdroadau'n cynnig y cyfle i weithio yn yr Ysbytai Cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn ogystal ag Ysbyty Cymunedol Treffynnon.
Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi yn BIPBC yn cynnig llwybr gyrfa cyfan i Fand 8A fel ymarferydd clinigol uwch. Anogir gwella a datblygu gwasanaethau ac mae gan yr holl staff fynediad at oruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd.
Dyma gyfle i weithio mewn tîm mawr sefydledig a chefnogol mewn rhan hardd o'r DU.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynnal asesiadau a thriniaethau ffisiotherapi; datblygu rhaglenni triniaeth therapiwtig unigol ar gyfer llwyth achosion arbenigol yn y maes clinigol perthnasol. Gall cleifion gynnwys y rhai â phroblemau corfforol a seicolegol mewn maes arbenigol. Mae arweinydd tîm, Arbenigwr Clinigol neu Uwch Ymarferwyr ar gael ar gyfer cefnogaeth glinigol a rheolaethol.
- Sicrhau safon uchel o ofal ar gyfer pob claf sy’n gweithio gyda chleifion, teuluoedd neu ofalwyr, timau aml-asiantaeth a disgyblaethau dan sylw.
- Cyfathrebu â'r cleifion hyn, gofalwyr, asiantaethau a disgyblaethau eraill mewn modd priodol, yn aml gyda gwybodaeth sensitif, diagnosis neu ganlyniadau.
- Goruchwylio Hyfforddwyr Technegol, Myfyrwyr ac aelodau eraill o'r timau amlddisgyblaethol neu amlasiantaethol.
- Hyfforddi a goruchwylio cleifion, teuluoedd neu ofalwyr a staff o ddisgyblaethau neu asiantaethau eraill i gyflawni rhaglenni gofal a ddyfeisiwyd gan y therapydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd Ffysiotherapi
- Cofrestriad HPC
Meini prawf dymunol
- Aelod CSP
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhychwant eang lleoli clinigol yn ystod hyfforddi
- Profiad blaenorol y GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad gwaith cyn-gofrestru mewn maes perthnasol, e.g. Catref Nyrsio
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Ability to Communicate in a professional manner
- Basic Assessment and problem Solving Skills
- Ability to Critically appraise research literature.
- Computer Literate
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth am rolau’r GIG gan gynnwys Cynorthwywyr/T.I.
- Gweithio amlddisgyblaethol/ asiantaeth.
- Awyddus
- Aelod brwd o dîm.
- Yn gallu defnyddio eich cymhelliant eich hun.
- Agwedd Hyblyg at waith
- Y gallu i symud rhwng adrannau a safleoedd yn brydlon
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o'r broses archwilio
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gwawr Job-Davies
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Physiotherapy (East BCUHB)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07799341012
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
