Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP010-0126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan IHC
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arbenigwr Clinigol Rehab yr ysgyfaint

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n tïm profiadol i ddarparu Adsefydlu Cardiaidd yn Siroedd Conwy a Dinbych. Rydym yn chwylio am ffisiotherapydd sydd â phrofiad mewn meddygaeth aciwt a sydd a phrofiad neu ddiddordeb mewn gweitho mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol megis canolfannau hamdden.

Pwrpas  y rôl yw darparu gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau Adsefydlu Cardiaidd arbenigol i gleifion â 'u teuluoedd sy'n hyrwyddo adferiad a hunanreoli. Mae hyn yn gofyn i chi weithio yn annibynnol, gyda chefnogaeth gan yr Ffisiotherapydd Cardiaidd Arbennigol a Ffisiolegydd Ymarfer Cardiaidd, ac fel rhan o dïm amlddisgyblaethol i sicrhau llwybr diogel ac effeithiol i gleifion cardiaidd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithio ar y cyd â'r Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol i ddarparu gwasanaeth clinigol o ansawdd uchel yng Nghymuned Iechyd Integredig y Ganolfan.
  • Asesu a rheoli cleifion cymhleth. Datblygu a darparu rhaglenni triniaeth unigol a gweithio'n effeithiol gyda'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.
  • Cyfathrebu â chleifion ac aelodau eraill o'r Tîm Amlddisgyblaethol i symud ymlaen â rhaglenni adsefydlu a thriniaeth. Bydd hyn yn cynnwys cleifion a allai gael anawsterau wrth ddeall neu gyfathrebu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'. 

 Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd". 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais. 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwchGwneud cais nawri’w gweld yn Trac . 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Ffisiotherapi
  • HCPC
  • Tystiolaeth o CPD mewn Ffisiotherapi ar ffurf portffolio datblygiad personol manwl.
Meini prawf dymunol
  • Aelod o grŵp arbenigol Clinigol
  • Aelodaeth o gorff hyfforddi ôl-raddedig proffesiynol priodol
  • Cwrs addysgwyr clinigol
  • IQT Efydd

Sgilliau

Meini prawf hanfodol
  • Ymarfer clinigol uwch a sgiliau rhesymu clinigol hyd at lefel arbenigol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol o fewn maes clinigol
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • Gallu arwain a chymryd rhan mewn gwaith tîm a hyfforddiant
  • Gallu bod yn hunan-gymhellol
  • Sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • Gallu cyflwyno gwybodaeth mewn modd clir a rhesymegol
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Sgiliau trefnu profedig gan gynnwys blaenoriaethu a dirprwyo
  • Gallu arwain ac ysgogi eraill o fewn y tîm
  • Gallu corfforol i drin llwythi â llaw, gan gynnwys trin therapiwtig, trwy gydol y rhan fwyaf o'r dydd
  • Cymhwysedd wrth ysgrifennu adroddiadau
  • Y gallu i ddeall a gweithio yn unol â pholisïau Diogelu Data, Cyfle Cyfartal ac Iechyd a Diogelwch y bwrdd iechyd, er mwyn diwallu anghenion gwahanol cleifion
  • Gwybodaeth a sgiliau asesu risg
Meini prawf dymunol
  • Cymryd rhan weithredol mewn ymchwil a chyfrannu at arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Gallu rhedeg cyrsiau mewnol/allanol
  • Sgiliau addysgu a goruchwylio da
  • Y gallu i greu cyflwyniadau
  • Sgiliau ymchwil
  • Sgiliau hyfforddi
  • Hyfforddiant PDR

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda o gyflyrau cymhleth
  • Gwybodaeth uwch o anatomeg a ffisioleg sy'n sail i batholeg gymhleth
  • Gwybodaeth weithredol dda o bob maes llywodraethu clinigol gan gynnwys ansawdd, archwilio a rheoli risg.
  • Dealltwriaeth o gyfrifoldebau cyfreithiol y proffesiwn
  • Dealltwriaeth dda o'r angen i gasglu ystadegau a phrofiad o'u defnydd
  • Dealltwriaeth eang o bolisïau a gweithdrefnau BCU
  • ymwybyddiaeth anabledd.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru sylweddol
  • Tystiolaeth o gylchdroadau craidd
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG fel ffisiotherapydd a gweithio MDT/amlasiantaethol lle bo hynny'n berthnasol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gyfrannu at CNG neu bartïon gwaith.
  • Profiad yn yr arbenigedd perthnasol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynne Williams
Teitl y swydd
Deputy Head of Physiotherapy
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07557312531
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Catrin Warren

Clinical Specialist Physiotherapist

tel: 01785 448788 ext 3945

email: [email protected]

or

Ruth Lloyd

Cardiac Rehabilitation Exercise Professional

tel: 01785 448788 ext 3945

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg