Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Recriwtio
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC709-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/03/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwy-ydd Recriwtio
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Recriwtio cyffredinol ar gyfer Meddygon Arbenigeddau, swyddi gwag Deoniaeth Cymru a swyddi yn y Bwrdd Iechyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd a chenedlaethol. Penodiadau meddygon Locwm Asiantaethau a'r broses anfonebu.
- Goruchwylio gwaith y Cynorthwywyr Cefnogi Recriwtio sy'n cydlynu'r broses o recriwtio a phenodi ar gyfer staff meddygol o bob gradd.
- Gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer y Cynorthwywyr Cefnogi Recriwtio gan roi cyngor ac arweiniad ar recriwtio, locwm ac ymholiadau eraill.
- Cynnal systemau / cronfeydd data perthnasol (Cofnodion Staff Electronig; Intrepid; NHS Jobs ac ati).
- Casglu gwybodaeth, yn cynnwys recriwtio; swyddi gwag; gweithgaredd meddygon locwm, ac anfonebu, darparu hyn yn fisol i'r Rheolwr Recriwtio; a'r sefydliad fel bo angen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Goruchwylio'r broses benodi ar gyfer Meddygon Arbenigeddau a Meddygon Iau gan y Cynorthwywyr Recriwtio Gweithlu Meddygol, gan gydweithio â nhw a'r Uwch Adrannau i ddatrys unrhyw anawsterau neu rwystrau i recriwtio.
Gwneud yn siŵr y cedwir at Weithdrefnau Rheoli Sefydlu swyddi gwag, egwyddorion recriwtio cyfredol a gofynion gwirio cyn cyflogi.
Mynychu cyfweliadau recriwtio i feddygon Arbenigeddau a meddygon Iau i sicrhau bod gwiriadau hunaniaeth yn cael eu cwblhau cyn y cyfweliad, cymryd nodiadau cynhwysfawr i fformat y cytunwyd arno, sicrhau bod y panel yn cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a phrosesau recriwtio'r sefydliad a bod y gwaith papur perthnasol yn cael ei gwblhau gan holl aelodau'r panel.
Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus am ganlyniad y cyfweliadau recriwtio gan fod yn ymwybodol o'r angen i fod yn sensitif yn enwedig pan fo ymgeisydd yn aflwyddiannus.
Gwneud gwaith cyswllt uniongyrchol rhwng yr Uwch Adrannau ac Asiantaethau Meddygon Locwm i bennu gofynion meddygon locwm a sicrhau ei fod yn cael ei gynllunio pan fo'n briodol dros absenoldebau / swyddi gwag yn unol â Chod Ymarfer Locwm yr Adran Iechyd a chanllawiau perthnasol eraill.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Goruchwylio'r broses benodi ar gyfer Meddygon Arbenigeddau a Meddygon Iau gan y Cynorthwywyr Recriwtio Gweithlu Meddygol, gan gydweithio â nhw a'r Uwch Adrannau i ddatrys unrhyw anawsterau neu rwystrau i recriwtio.
Gwneud yn siŵr y cedwir at Weithdrefnau Rheoli Sefydlu swyddi gwag, egwyddorion recriwtio cyfredol a gofynion gwirio cyn cyflogi.
Mynychu cyfweliadau recriwtio i feddygon Arbenigeddau a meddygon Iau i sicrhau bod gwiriadau hunaniaeth yn cael eu cwblhau cyn y cyfweliad, cymryd nodiadau cynhwysfawr i fformat y cytunwyd arno, sicrhau bod y panel yn cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a phrosesau recriwtio'r sefydliad a bod y gwaith papur perthnasol yn cael ei gwblhau gan holl aelodau'r panel.
Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus am ganlyniad y cyfweliadau recriwtio gan fod yn ymwybodol o'r angen i fod yn sensitif yn enwedig pan fo ymgeisydd yn aflwyddiannus.
Gwneud gwaith cyswllt uniongyrchol rhwng yr Uwch Adrannau ac Asiantaethau Meddygon Locwm i bennu gofynion meddygon locwm a sicrhau ei fod yn cael ei gynllunio pan fo'n briodol dros absenoldebau / swyddi gwag yn unol â Chod Ymarfer Locwm yr Adran Iechyd a chanllawiau perthnasol eraill.
Rhoi cyngor ar delerau ac amodau cyflogaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol a Meddygol a Deintyddol gan uwch gyfeirio at Swyddog Recriwtio neu Reolwr pan fo angen.
Cysylltu ag Iechyd Galwedigaethol i sicrhau bod yr holl gliriadau perthnasol yn cael eu cwblhau i bob meddyg newydd yn cynnwys locymau asiantaeth.
Sicrhau bod gwybodaeth staff newydd yn cael ei fewnbynnu'n gywir ar y system Cofnod Staff Electronig. Gall hyn fod yn amodol ar wirio ar hap gan y Swyddog Recriwtio.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ 3 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- NVQ 2 mewn gweinyddiaeth neu Wasanaethau Cwsmer
- ECDL
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn y GIG mewn rôl weinyddol
- Profiad o weithio gyda Microsoft Office Word, Excel
- Gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith a bodloni terfynau amser
- Sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog a sgiliau cyfathrebu fel eich bod yn gallu ymdrin â galwyr dros y ffôn ac wyneb yn wyneb mewn modd proffesiynol a chwrtais
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio cronfeydd data TG
- Profiad o systemau'r GIG e.e. ESR/NHS/Intrepid
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
- Profiad o recriwtio, yn ddelfrydol mewn amgylchedd Adnoddau Dynol neu Weithlu meddygol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Runcie
- Teitl y swydd
- Senior Recruitment Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977 762784
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
