Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymchwil radioleg
- Gradd
- NHS AfC: Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9-5)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP215-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/12/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Radiograffydd Ymchwil
NHS AfC: Band 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rhoi cyngor a darparu arbenigedd yn yr adran Radioleg ac fel Arbenigwr Ymchwil.
Buasai profiad blaenorol mewn delweddu trawstoriadol yn ddymunol.
Bydd o leiaf tri diwrnod yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhoi cyngor a darparu arbenigedd yn yr adran Radioleg ac fel Arbenigwr Ymchwil.
· Cynnig gwaith ymchwil o dan arweiniad yr adran Radioleg a'i roi ar waith, gan ddatblygu a chefnogi astudiaethau ymchwil sy'n seiliedig ar Ddelweddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; gweithio'n agos gyda chydweithwyr academaidd ym maes delweddu ym Mhrifysgol Bangor ac yn enwedig gyda'r Uned Ymchwil Biofeddygol Delweddu a chydgysylltu â Sefydliadau Addysg Uwch eraill lle bo angen.
• Bod yn aelod o'r gymuned ymchwil delweddu lleol ac yn ehangach a gweithio'n agos â'r gymuned honno
• Cyfrifoldeb proffesiynol am ddarparu a chynnal safonau gan sicrhau bod pob claf yn cael gofal da a bod dull sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael ei fabwysiadau i ddarparu gofal.
• Rhoi Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio a pholisïau a gweithdrefnau adrannol ar waith a hwyluso cydymffurfiaeth mewn perthynas ag ymchwil, gan ddilyn arferion gorau bob amser.
• Gweithio fel rhan o'r Tîm Radiograffeg a goruchwylio gwaith aelodau iau o'r tîm, cynorthwywyr yr adran Delweddu a myfyrwyr lle y bo'n briodol; rhoi cyngor, arweiniad a gwybodaeth er budd pawb.
• Cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith yn eich maes cyfrifoldeb a sicrhau y caiff ei gwblhau mewn modd effeithlon gan ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithiol o ddydd i ddydd yn yr Adran Radioleg.
Rhoi mesurau Ymatal ar waith o fewn eich cwmpas ymarfer
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ymchwilio, Archwilio a Llywodraethu Clinigol
Cynnal, hybu a chefnogi gwaith ymchwil a datblygu a chymryd rhan mewn archwiliadau.
Gweithio'n agos gyda Radiolegwyr a Radiograffyddion i ddatblygu gwaith ymchwil yn yr adran Radioleg, ei roi ar waith a'i fonitro.
Gweithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor ac yn enwedig gyda'r Uned Ymchwil Biofeddygol er mwyn helpu i ddatblygu ymchwil academaidd amlddisgyblaethol yn ymwneud â disgyblaethau Delweddu a'i rhoi ar waith.
Gweithio'n agos gyda'r Grŵp Dadansoddi Delweddau Meddygol a Chefnogi Seilwaith Delweddu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Helpu ymgeiswyr i gyflwyno prosiectau ymchwil newydd.
Helpu i goladu a chofnodi gwybodaeth am dreialon clinigol yn ymwneud â Delweddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Darparu adroddiadau amserol ar Weithgarwch Ymchwil i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy Adran Ymchwil a Datblygu BIPBC a'r Uwch-dîm Rheoli Radioleg
Cymryd rhan yn rhaglenni Rheoli Ansawdd y cyfarpar radioleg
Casglu a choladu data yn ymwneud â llwyth gwaith academaidd ar Reoli Adnoddau.
Cynnal archwiliadau/arolygon yn ymwneud â'ch maes gwaith eich hun.
Llunio protocolau a gweithdrefnau drafft ar gyfer ymchwil i'r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) a'u datblygu.
Cynnig a chyfrannu at newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer yr adran lle bydd rhai yn effeithio ar ddisgyblaethau yn yr adran, fel y staff nyrsio a staff y swyddfa yn ogystal ag adrannau a wardiau eraill.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- BSc mewn radiograffeg (neu radd gyfatebol)
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- MSc neu hyfforddiant cyfatebol (Drwy feddu ar gymhwyster ol-raddedig mewn arbenigedd sy'n gysylltiedig a delweddu ynghyd a gwybodaeth/hyfforddiant mewn ymchwl i lefel briodol nwedi'i dogfennu/ddogfennu) - neu weithio tuag at yr olaf.
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad a'r cyngor proffesiynau iechyd a gofal fel radiograffydd diagnostig
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ym maes radiograffeg gliigol, gan gynnwys delweddu arbenigol. Profiad blaenorol o gynnal gwaith ymchwil neu sgiliau archwilio sylweddol.
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth arbenigol am faterio rheolaiddio/moesegol a rheoli sy'n berthnasol i'r gwaith o roi treialon clinigol ar waith a'u cydlynu.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lona Tudor Jones
- Teitl y swydd
- Research and Development manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000844542
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
-
Radioleg Ysbyty Glan Clwyd
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
