Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Wroleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener - Dyddiau i'w cadarnhau wrth apwyntiad)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC099-0426-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,300 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Ysgrifennydd Meddygol profiadol a gweithgar i ymuno â Thîm Gweinyddiaeth Wroleg yng Ngwasanaeth Glan Clwyd.
Bydd yr ymgeisydd yn frwdfrydig ac yn uchel ei gymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn ymwneud â darparu ystod gynhwysfawr o ddyletswyddau ysgrifenyddol ac gweinyddol i Adran Wroleg.
Mae'r swydd heriol hon yn gofyn am rywun sy'n chwaraewr tîm, ymagwedd hyblyg, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n dda dan bwysau.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn deipydd profiadol, gyda chymhwyster i RSA Teipio Lefel II (neu gyfwerth). Mae'r swydd hon hefyd yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i gwrdd â gofynion gweithio mewn amgylchedd prysur a gallu cynrychioli'r adran gyda phroffesiynoldeb dyladwy.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
- RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word)
- Cwymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- AMSPAR – City & Guilds L3
- NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
- Profiad o deipio
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol a staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu defnyddio Microsoft Office
- Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
- Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth
- Sgiliau trefnu rhagorol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cymryd cofnodion
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
- Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Sefydliadau GIG
- Termau Meddygol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrea
- Teitl y swydd
- Assistant Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 846819
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
