Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clywedeg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-HS048-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd a Ysbyty Maelor
- Tref
- Bodelwyddan a Wrexham
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Arbenigol Clywedeg
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddau Awdiolegydd arbenigol neu Wyddonydd Clinigol Band 6 profiadol a brwdfrydig i ymuno gyda’n tîm prysur a chyfeillgar yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig ac awyddus i gynnal rôl allweddol wrth ddatblygu a darparu Gwasanaethau Adsefydlu Clywedol a Tinnitus uwch.
Yn ogystal, efallai y bydd cyfleoedd i gefnogi’r gwasanaeth pediatrig a/neu wasanaeth Mewnblaniad Cochlea Gogledd Cymru, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd.
Bydd y swyddi yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Gwneir y swyddi mewn lleoliadau cleifion allanol, cartrefi a/neu lleoliadau gleifion mewnol yn ardal BIPBC.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr Ymarferydd Arbenigol mewn Awdioleg yn rhoi asesiad arbenigol ac adsefydliad mewn gwasanaethau Awdioleg Clinigol. Bydd hyn yn cynnwys arwain ar ddarparu a chynllunio gofal unigol fel Ymarferydd Annibynnol. Yn ychwanegol, bydd yr Ymarferydd Arbenigol yn arwain meysydd penodol o weithgaredd gwyddonol fel y dyrennir gan uwch gydweithwyr. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at weithgaredd datblygu gwasanaeth, archwilio, ymchwil a darparu gweithgaredd datblygiad proffesiynol parhaus a gwaith rhyngasiantaethol. Bydd yr ymarferydd arbenigol yn cyfrannu at hyfforddi a goruchwylio uwch gydweithwyr a rhai dan hyfforddiant.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau / Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc mewn Awdioleg gyda chymhwyster Clinigol Awdiolegol Israddedig neu Gywerth
- Deall a chymhwysedd mewn gweithgareddau ymarferydd arbenigol awdioleg neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Modiwlau Lefel-M mewn Awdioleg neu Gymhwyster Clinigol Awdiolegol Ôl Lefel-M
Cofrestriad
Meini prawf hanfodol
- Awdiolegydd Cofrestredig gyda RCCP (Cyngor Cofrestriad ar gyfer Ffisiolegwyr Clinigol)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad diweddar o asesu anghenion cyfathrebu yn cynnwys statws clyw
- Profiad diweddar mewn gosod cymhorthion clyw cymhleth a'u gwirio
- Profiad diweddar o gynorthwyo asesu dulliau praf clywfestibiwlaidd
- Profiad o gymryd rhan mewn archwilio clinigol a datblygu'r gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol ag Auditbase math 6
- Rhoi newid ar waith
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn benodol rhai ag amhariad clyw
- Sgiliau sylfaenol cyfrifiadurol
- Sgiliau tim
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
- Talp o brofiad cronfeydd data
- Sgiliau TG Uwch
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Mae angen bod yn gymwys ym mhob gwedd clywedeg addas i'r swydd
Nodweddion personol
Meini prawf hanfodol
- Cyfranogwr tim
- Gallu dangos cydymdeilad â chleifion
- Dibynadwy a phrydlon
- Hybyg â lleoliad / patrwm gwaith, e.e. gallu teithio at glinigol ymylol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Suzanne Tyson
- Teitl y swydd
- Principal Audiologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850078
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
