Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicolegydd Clinigol
- Gradd
- Gradd 7/8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 33.75 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST049-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- GIMPPhI Penrallt
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £46,840 - £61,412 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Band 7/8a Seicolegydd Clinigol (Iechyd Meddwl)
Gradd 7/8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn gyffrous ein bod yn cynnig swydd (0.9acall) parhaol 8a Uwch Seicoleg Glinigol Seicoleg Iechyd, yn y Tîm GIMPPhI Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn dîm amlddisgyblaethol cyfeillgar, profiadol a deinamig ac wedi ein lleoli mewn rhan hardd o Ogledd Cymru. Bydd yr elfen anhwylderau bwyta o'r swydd dros Wynedd ac Ynys Môn, gyda rhai apwyntiadau yn cael eu cynnal yn Uned Glasoed Gogledd Cymru yn Abergele. Bydd gwaith craidd CAMHS ym Meirionnydd a Dwyfor.
Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan Seicolegwyr Clinigol â chymwysterau addas sy'n edrych i ddatblygu i rôl Uwch Seicolegydd Clinigol. Yn yr achos hwn byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi i swydd ddatblygu Band 7 ac wrth ddechrau'r swydd bydd yn gosod cynllun datblygu dysgu gyda'u mentor i gyflawni cymwyseddau penodol o fewn amserlen briodol. Mae hwn yn debygol o fod yn gyfnod rhwng 6 mis a 2 flynedd i'w gwblhau yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad cyfredol. Byddai dyrchafiad i swydd 8a yn digwydd ar ôl cwblhau'r cynllun yn llwyddiannus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi gwasanaeth i blant a phobl ifanc (0-18 oed) a’u teuluoedd, lle mae’r person ifanc efo problemau iechyd meddwl dwys, yn cynnwys anhwylderau bwyta. Bydd deilydd y swydd yn cynnal asesiadau, datblygu fformiwleiddiai gweithredol, ac yn cynnig ymyraethau priodol i’r person ifanc a’u teulu. Byddent yn gweithio’n agos efo aelodau o’r tîm aml-ddisgybliedig, ac yn cynnig ymgynghoriadau a goruchwyliaeth i’w cyd-weithwyr fel yn briodol. Bydd disgwyl iddynt gymeryd cyfleoedd i ddangos arweiniant mewn materion sy’n ymwneud a gwella gwasanaeth, a hefyd byddent yn cael eu cefnogi i weithio ar archwiliadau ac ymchwil priodol. Fe fydd disgwyliad hefyd i gynnig sesiynau dysgu a goruchwyliaeth i hyfforddai ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru.
Gyda’r datblygiadau sydd yn digwydd yng Nghymru, mae hon yn adeg dda i ymuno â'n tîm. Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth. Gellid ystyried y rôl hon ar gyfer swydd ddatblygu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Am fyw o wybodaeth cysylltwch ag Dr Gwenllïan Parry, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ar 03000 852450 neu Dr Trish Girling, Prif Seicolegydd Clinigol ar 03000 850037.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg. Yn gymwys i ennill statws Siartedig a'r BPS
- Cofrestriad HCPC fel Seicolegydd Clinigol
- Doethuriaeth Ol-radd mewn Seicoleg Glinigol (neu gyfwerth i'r rheiny a hyfforddodd cyn 1996) yn unol ag achrediad y BPS
- Hyfforddiant goruwchwyliaeth glinigol ar gyfer hyfforddeion Doethuriaeth
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant uwch mewn dylunio a methodoleg ymchwil
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o waith ymarfer seicoleg glinigol gymwysedig
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am amrywiaeth of agweddau therapiwtig perthnasol ar gyfer gwaith Iechyd Meddwl ac asesiadau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Gwenllian Parry
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000852450
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector