Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsys Ardal
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC614-0825-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Eryri
Tref
Caernarfon
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Cyswllt Nyrsys Ardal

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol ac ysgrifenyddol effeithlon a chynhwysfawr i Ddirprwy Bennaeth Nyrsio Cymunedol a Metronau Ardal o fewn Ardal Arfon ag Ynys Mon;  Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm, dan arweiniad y Gweinyddwr Ardal.  Dylid cyflawni pob dyletswydd yn unol â'r Polisi Adrannol a Pholisi'r Bwrdd Iechyd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ymgymryd â holl ddyletswyddau clercol, ysgrifenyddol a phrosesu geiriau sydd fel arfer yn gysylltiedig â gohebiaeth, adroddiadau a dogfennau tebyg eraill, ar gyfer y Metron Ardal. 

Gweithio heb oruchwyliaeth â'r rhyddid i ddefnyddio eich menter eich hun y rhan fwyaf o'r amser i flaenoriaethu a chwblhau tasgau.

Darparu gwybodaeth gywir ac amserol fel sy'n ofynnol gan y Metron Ardal, y Gweinyddwr a'r Tîm Rheoli Ardal.

Bod yn gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd fel sy'n ofynnol; a chymryd yr holl gamau cefnogi angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd o'r fath gan gynnwys cymryd cofnodion ffurfiol a'u dosbarthu.

Darparu cymorth ysgrifenyddol i staff nyrsio eraill ar gyfer dyletswyddau a gymeradwyir gan y Metron Ardal yn ôl yr angen, ac ar sail ad hoc.

Lle y bo'n briodol, ymateb i alwadau ffôn, e-byst, post sy'n cyrraedd ac ymholiadau cyffredinol eraill i ddatrys materion a chynnig cyngor gan ddefnyddio eich menter eich hun, a sicrhau bod y Metron Ardal yn gwbl ymwybodol o'r canlyniadau.

Ymgymryd â dyletswyddau personél cys

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Safon Dda o Addysg Gyffredinol (ee TGAU Mathemateg a Saesneg A-C ac uwch neu gyfatebol).
  • NVQ Lefel 3 neu brofiad a gwybodaeth berthnasol gyfatebol. Mae angen ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
  • TG Cymhwyster neu brofiad amlwg o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant Statudol Gorfodol yn unol â Pholisi’r Bwrdd Iechyd
  • Dealltwriaeth o Derminoleg Feddygol sylfaenol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn ysbyty acíwt / meddygfa neu amgylchedd Canolfan Alwadau/Canolbwyntio ar y Cwsmer
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd
  • Gallu gweithio fel aelod o dîm
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol â staff clinigol / ymgynghorol
  • Profiad blaenorol o Reoli Rhestrau Aros

Sgiliau gan gynnwys y sgiliau corfforol sy’n angenrheidiol i'r swydd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac ar y ffôn
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol er mwyn delio â chlinigwyr, uwch reolwyr a staff clercyddol
  • Gwerthfawrogi anghenion cleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.
  • Gallu ymateb i faterion annisgwyl, ail-flaenoriaethu eich gwaith eich hun os oes angen
  • Sgiliau bysellfwrdd da ar gyfer defnyddio systemau cyfrifiadurol/sgiliau TG yn rheolaidd
  • Defnyddio’r ffôn yn aml ac am gyfnodau hir
  • Gallu canolbwyntio ar ddyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd annisgwyl, a gallu rheoli gwaith gyda chleifion, staff meddygol ac asiantaethau allanol yn tarfu’n gyson.
Meini prawf dymunol
  • Cymwys yn y defnydd o Microsoft Office
  • Cymwys yn y defnydd o System Gweinydd Cleifion neu systemau PAS tebyg
  • Gallu siarad Cymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gyfarwydd â gweithdrefnau gweinyddol rhestrau aros a materion polisi
  • Gwybodaeth am PiMS neu systemau gweinyddol cleifion eraill neu brofiad o ddefnyddio cronfeydd data ac Excel i drefnu a hidlo meysydd data
  • Gwybodaeth am Ddiogelu Data
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o derminoleg feddygol sylfaenol
  • Adnabyddiaeth o ganllawiau Caldicott

RHINWEDDAU PERSONOL (Amlwg)

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cyflawni cyfraddau gwaith uchel
  • Gwydn wrth weithio dan bwysau
  • Defnyddio blaengaredd i ddatrys problemau
  • Agwedd hyblyg tuag at waith (ee llenwi bwlch yn lle pobl eraill)
  • Yn hyderus wrth ddelio ag ystod eang o bobl yn y sefydliad a’r tu allan iddo
  • Brwdfrydig, hyderus gydag agwedd gadarnhaol
  • Llawn cymhelliant
  • Gallu gweithio o fewn amserlenni tynn
  • Doeth a diplomataidd
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu eich hun
  • Mae'n rhaid gallu dangos dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Arwel Hughes
Teitl y swydd
Community Hospitals Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851585
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg