Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dietetig
Gradd
Gradd 7
Contract
7 mis (Cyfnod penodol hyd at 31.3.27 oherwydd cyllido)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP133-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan, Eryri
Tref
Caernarfon
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arweinydd Dieteteg Iechyd Y Cyhoedd

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penedol /secondiad tan 31.03.2027 oherwydd cyllido.
 
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
 
Arwain, ysbrydoli a siapio iechyd a lles cymunedol yng Ngwynedd ac Ynys Môn drwy ymuno â'n Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus BIPBC arobryn fel Arweinydd Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd (Band 7) Ardal y Gorllewin. Fel arweinydd lleol hanfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddwch yn gweithredu rhaglenni maeth iechyd cyhoeddus ar draws cymunedau gwledig ac arfordirol Gogledd Orllewin Cymru.
 
Wedi'i leoli yn ardal y Gorllewin (sy'n cwmpasu Gwynedd ac Ynys Môn), byddwch yn arwain tîm ymroddedig o ddietegwyr a gweithwyr cymorth i gyflawni prosiectau bwyd a maeth cymunedol sy'n seiliedig ar dystiolaeth 
sy'n cyd-fynd â fframwaith Sgiliau Maeth am Oes Cymru gyfan a blaenoriaethau sefydliadol BIPBC Cyfrifoldebau allweddol;
 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Arwain ar ddatblygiad arfer gorau o ran dieteteg datblygiad cymuned/iechyd cyhoeddus, ei weithredu, ei ddarparu a'i ddadansoddi yn ardal Gorllwein y Bwrdd Iechyd gan weithio fel aelod integredig o'r timau amlddisgyblaethol ac mewn partneriaeth â nhw o fewn iechyd a'r tu allan iddo; yn cynnwys gofal cymdeithasol, awdurdod lleol, addysg a'r trydydd sector.

Darparu gofal dietetig di-dor arbenigol iawn i unigolion a grwpiau yn y meysydd a ddynodwyd uchod drwy ddefnyddio amryw o ddulliau addysg; gan gefnogi rheoli rhanddeiliaid ehangach i adeiladu capasiti yn y gymuned drwy negeseuon maeth cyson, drwy ddarparu cyrsiau achrededig a rhai heb eu hachredu. 

Bod yn arweinydd tîm o ran staff dirprwyedig maeth a dieteteg gan sicrhau safonau gofal cyson wedi'u seilio ar dystiolaeth a gweithio amlddisgyblaethol effeithiol ar draws BIPBC gan weithredu fel Arweinydd y Rhwydwaith o ran Dieteteg Iechyd Cyhoeddus.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Arweinyddiaeth Tîm Lleol: Darparu rheoli llinell, goruchwyliaeth broffesiynol, a chefnogaeth weithredol i dîm dietetig Iechyd Cyhoeddus ardal y Gorllewin.
 
Partneriaeth Gymunedol: Cydweithio â chydweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol, y sector gofal plant, darparwyr addysg, a grwpiau trydydd sector ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
 
Adeiladu Gallu: Goruchwylio cyflwyno cyrsiau maeth achrededig yn rhanbarthol gan ddefnyddio dull cynaliadwy "hyfforddi'r hyfforddwr", gan adeiladu gallu yn y gweithlu cymunedol.
 
Aliniad Strategol: Targedu anghydraddoldebau iechyd drwy lunio
a gyrru mentrau lleol sy'n cefnogi'r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Deietegydd cofrestredig y wladwriaeth (gyda HCPC)
  • Cymhwyster cydnabyddedig gradd / cyfwerth mewn dieteteg
  • Astudiaeth ôl-raddedig achrededig sy'n berthnasol i faes clinigol ar lefel meistr neu gyfwerth
  • Hyfforddiant sgiliau goruchwylio clinigol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Arfer dieteteg eang, sefydledig
  • Profiad sylweddol o gyflenwi dietetig ym maes diabetes
  • Profiad o arwain tîm
  • Dirprwyo i staff cymwys a heb gymhwyso
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli prosiectau
  • Profiad o arwain datblygiad / gwelliant gwasanaeth.
  • Rheolaeth llinell

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn ar amrywiaeth o lefelau
  • Sgiliau rheoli llwyth achosion a blaenoriaethu effeithiol
  • Chwaraewr tîm ac • Arweinydd tîm
Meini prawf dymunol
  • Iaith Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Harriet Williams
Teitl y swydd
Area Head of Dietetics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Harriet Williams

Area Head of Dietetics

[email protected]

03000 851709

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg