Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dieteteg
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (tan 31/03/2027 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener 09:00 i 17:00)
Cyfeirnod y swydd
050-AHP171-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan
Tref
Caernarfon
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Dietegydd

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad tan 31/03/2027 i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Ydych chi'n angerddol am wella iechyd trwy faeth?

Ymunwch â'n tîm Dieteteg Iechyd Cyhoeddus sydd wedi ennill gwobrau, a helpwch i wneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm cyfeillgar ac arloesol o ddeietegwyr cofrestredig, maethegwyr a gweithwyr cymorth dieteteg.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu hyfforddiant bwyd a maeth a chefnogi gweithgareddau cymunedol i weithwyr proffesiynol ac aelodau'r cyhoedd. Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr, byddwch yn cyfrannu at ystod o raglenni sefydledig sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd cyhoeddus lleol a chenedlaethol, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau bwyd a maeth achrededig a gwobr arfer gorau Tiny Tums ar gyfer darparu bwyd a diod mewn lleoliadau gofal plant. Os ydych chi'n angerddol am hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac y byddech chi'n ffynnu mewn tîm cefnogol, perfformio uchel, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • O fewn tîm ardal y Gorllwein, gwella sgiliau bwyd a maeth sylfaenol ymhlith partneriaid / asiantaethau cymunedol sy'n gweithio ym maes penodol dieteg iechyd cyhoeddus. 
  • Cymryd rhan mewn amrywiol grwpiau partneriaeth / Tasg a Gorffen, mewn cytundeb â'r Uwch Ddietegwyr. Gall hyn fod o fewn grŵp pwnc penodol, neu ar draws rhwydwaith amlasiantaethol, a chaiff ei nodi o fewn Cynllun Gwaith deiliad y swydd e.e. safonau maeth; hyfforddiant a datblygiad; archwiliad; cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth; gwerthuso gwasanaeth; adolygiad / gwelliant adnoddau maeth.

  • Gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol.
  • Ymgymryd â chyfrifoldebau llywodraethu clinigol o ran y maes gwasanaeth o fewn y grwpiau arbenigol clinigol a'r rhwydweithiau clinigol amlddisgyblaethol.
  • Cefnogi datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad Dangoswyr Ansawdd Allweddol (KQI).

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster cydnabyddedig gradd/cywerth mewn Dietetigs
  • HCPC Cofrestredig
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth grwp rhwydwaith clinigol priodol.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Ystod o brofiadau clinigol ar draws gwasanaethau oedolion yn ystod y lleoliad clinigol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol/ Timau amlbroffesiwn.
  • Profiad o ddirprwyo gwaith i staff heb eu cofrestru.
  • Profiad o gefnogi newid mewn gwasanaeth.

Skills

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Y gallu i weithio fel aelod o dim
Meini prawf dymunol
  • Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
  • Gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Harriet Williams
Teitl y swydd
Head of Dietetics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851709
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg