Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatreg
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR313-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan Bach
Tref
Caernarfon
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Achosion Cymhleth Rheolwr Tîm

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

 Darparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, a bod yn gyfrifol am  ddatblygiad a rheolaeth tîm effeithiol sy'n ofynnol i gyflawni hyn.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhoi cyngor i staff, darparu ar eu cyfer a rhoi cyfarwyddyd iddynt o ran sut i fynd ati i reoli achosion cymhleth.

Darparu gofal clinigol ansawdd uchel, seiliedig ar dystiolaeth. 

Darparu asesiadau diagnostig arbenigol neu asesiadau eraill fel y bo'n briodol.

Gweithredu fel prif gyswllt gyda gwasanaethau partner.

Meithrin cydberthynas gefnogol gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd.

Cynnig cyfeiriad, cyngor, cymorth ac ymgynghoriad i weithwyr proffesiynol eraill ac aelodau o'r tîm clinigol. 

Cynnal sesiynau goruchwylio clinigol rheolaidd gyda'r staff mewn grŵp proffesiynol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

·         Sicrhau bod y staff yn glynu wrth bolisïau / protocolau perthnasol y Bwrdd Iechyd er mwyn cynnal hygrededd y gwasanaeth.

·         Cyfrannu at gynllunio'r gweithlu.

·         Rhoi cyngor i staff ar feysydd lle mae angen canllawiau pellach.

·         Cynnal sesiynau PDR i staff a sicrhau bod gan yr holl staff amlinelliad swydd KSF a bod yr amlinelliadau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u gweithredu arnynt.

·         Bod yn gyfarwydd â safonau gofynnol y corff cofrestru proffesiynol a'u cynnal a sicrhau y caiff y safonau hyn eu cynnal ymhlith staff y mae gennych gyfrifoldeb amdanynt.

·         Darparu a chynnal cofnodion goruchwylio.

·         Sicrhau bod y staff yn casglu ac yn darparu gwybodaeth glinigol ac ystadegol fel y bo'n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau cyfathrebu da a lefelau atebolrwydd uchel.

·         Darparu rheolaeth weithredol ar gyfer yr holl staff yn y tîm o ddydd i ddydd a sicrhau bod trefniadau goruchwyliaeth glinigol ar waith i'r staff hynny nad ydynt yn destun goruchwyliaeth glinigol uniongyrchol gan ddeiliad y swydd.

·         Er mwyn sicrhau y caiff achosion, dyletswyddau a chyfrifoldebau eu dyrannu drwy'r amser, gan gynnwys mewn achlysuron lle mae angen darparu unigolion i gyflenwi yn ystod amserau o salwch hirdymor, absenoldeb mamolaeth ac ati.

·         Arwain ar ddatblygu systemau a phrosesau i sicrhau bod y tîm yn gweithio'n effeithlon.

·         Rheoli'r rota staff a chynlluniau gwaith ar gyfer y maes gwasanaeth.

·         Arwain ar ddatblygu'r gwasanaeth a mentrau a datblygiadau ailgynllunio i wella arferion gweithio lleol.

·         Gweithredu fel cynrychiolydd i'r rheolwr gwasanaeth mewn cyfarfodydd neu ar gyfer datblygiadau fel y dyrannwyd.

·         Hwyluso timau mewn gweithgareddau llywodraethu clinigol, gan gynnwys archwilio clinigol ar y cyd ag arweinwyr clinigol a phroffesiynol.

·         Monitro a rheoli gweithgareddau staff i fodloni targedau y cytunwyd arnynt a nodi ac unioni materion amrywiaeth ac ansawdd.

·         Gweithio mewn ffordd hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

·         Cynhyrchu adroddiadau o safon uchel mewn perthynas â'r gwasanaeth.

·         Monitro digwyddiadau a chwynion a chymryd camau priodol fel y bo'n ofynnol.

·         Cymeradwyo hyfforddiant a sicrhau bod hyn yn unol ag anghenion gwasanaeth, DPP neu PDR.

·         Rheoli absenoldeb oherwydd salwch, gan gynnwys cynnal cyfweliadau salwch anffurfiol a ffurfiol, cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith, gwneud atgyfeiriadau i iechyd galwedigaethol lle y bo'n briodol, cynnal asesiadau risg y gweithle i famau beichiog ac ati.

·         Rheoli cyllideb yr adran/ward fel y dirprwywyd gan y Rheolwr Gwasanaeth. Llofnodi taflenni amser a chostau teithio ynghyd â ffurflenni cymeradwyo a newid cyrsiau a chytuno ar ffurflenni gwyliau blynyddol ac absenoldeb arbennig a'u llofnodi.

·         Rheoli perfformiad a chanlyniadau'r timau ac unigolion yn effeithiol drwy gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau PBC.

·         Delio â chwynion yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd.

·         Sicrhau bod y tîm yn cyflwyno gwasanaeth o safon o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.

·         Rheoli cyllideb y maes gwasanaeth, gan gynnwys effeithlonrwydd costau, yn effeithiol.

·         Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau'n cymryd rhan yn llawn yn yr holl feysydd cynllunio, cyflwyno ac archwilio gwasanaethau, gan gynnwys recriwtio holl staff y rheng flaen.

·         Cefnogi'r gwaith o foderneiddio'r gwasanaeth a'r newidiadau iddo fel rhan o broses barhaus.

 

 

 

 

 

 

 

Manyleb y person

Qualifications and/or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol a chofrestriad proffesiynol gweithredol mewn proffesiwn cysylltiedig ag iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Datblygiad proffesiynol a rheolaethol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o fentora

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad rheoli ar fand 6 neu uwch.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o sgiliau a gallu rheolaeth ariannol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kelly Jones
Teitl y swydd
Matron Acute and Community Paediatrics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000842107
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg