Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Gwynedd
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS065-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Llywelyn
Tref
Conwy
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Cefnogaeth, Amser ac Adferiad - Gwryw yn unig

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Fforensig Cymunedol yn recriwtio staff gwrywaidd er mwyn cynnal tegwch ei sefydliad staffio ac oherwydd gofynion y grŵp cleifion gwrywaidd yn unig.

 Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gweithiwr Cefnogaeth, Amser ac Adferiad ymuno â’r Gwasanaeth Fforensig Cymunedol.

Noder: Gall y swydd wag hon gau'n gynnar os derbynnir nifer fawr o geisiadau.  Argymhellwn eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted a phosibl.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Diben y swydd hon yw gweithio fel rhan o’r Tîm Cefnogaeth, Amser ac Adferiad Estynedig (ESTR), a’r gwasanaeth adsefydlu ac adfer, sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i’r unigolion hynny sydd ag anghenion cymhleth, a chanolbwyntio ar anghenion uniongyrchol defnyddwyr y gwasanaeth. Byddant yn:

  • Darparu cefnogaeth a rhoi amser i grŵp penodol o ddefnyddwyr y gwasanaeth, a hybu eu hadferiad gan eu cefnogi i ddychwelyd i amgylchedd cymunedol, neu eu cefnogi i gadw eu lle yn y gymuned
  • Cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth i ddiwallu eu hanghenion a deilliannau a nodwyd, gan roi sylw i’w gwerthoedd, dymuniadau a dyheadau i fyw eu bywydau yn y ffordd maent yn dymuno, a pharchu’r rhain, eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau ac adnoddau cymunedol, fel tai, budd-daliadau, hamdden, addysg a chyflogaeth
  • Cynorthwyo’r Gwasanaeth Adsefydlu ac Adferiad a’r tîm ESTR i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso nodau a chynlluniau adferiad y cytunwyd arnynt gan bawb.
  • Gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth i ddatblygu ymhellach deilliannau a nodau manwl a phersonol.
  • Gallu gweithio yn annibynnol â defnyddwyr y gwasanaeth, ymateb yn ddiogel ac yn hyblyg i anghenion sy’n newid.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manyleb y person

Hanfodol

Meini prawf hanfodol
  • Tystysgrif mewn Gofal Iechyd Meddwl Cymunedol/NVQ Lefel 3 mewn gofal neu faes cyfatebol y cytunwyd arno Ymrwymiad i ymgymryd â DPP Sgiliau da o ran llythrennedd a rhifedd
  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl Gwybodaeth am ddulliau o weithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl Gwybodaeth am fudd-daliadau tai a lles, materion sy’n ymwneud â thai a materion cysylltiedig sy’n ymwneud â chyflogaeth ac addysg Profiad o weithio mewn tîm Profiad o fonitro a chofnodi gwybodaeth Profiad o weithio'n annibynnol
  • Gallu i ddangos hunan ysgogiad Gallu i asesu a gwerthuso anghenion unigol i alluogi defnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau deallus Gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth am faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a materion sy’n ymwneud â thai ac arian Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig a llafar, a’r gallu i gynrychioli defnyddiwr y gwasanaeth a’r sefydliad. Gallu i greu datrysiadau arloesol i helpu i rymuso defnyddwyr y gwasanaeth Gallu cydnabod amrywiaeth a hybu ymarfer nad yw’n gwahaniaethu/cyfle
  • cyfartal ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol Gallu i adnabod a chefnogi dyfeisgarwch personol pobl â salwch meddwl Gallu i gymryd rhan mewn goruchwyliaeth glinigol, yn unigol ac fel grŵp Sgiliau rhyngbersonol cryf, i gynghori a chefnogi defnyddwyr y gwasanaeth Gallu i ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, a datblygu perthynas therapiwtig â hwy, a seiliwyd ar ymddiriedaeth a pharch Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm Gallu i ddarparu cefnogaeth ymarferol â gweithgareddau byw bob dydd a gweithio mewn ffordd sy’n galluogi defnyddiwr y gwasanaeth i ailennill/cadw cyfrifoldeb personol Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 3 mewn rheolaeth neu gyfwerth y cytunwyd arno. Cymwysterau mewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal, Tai, Cyllid, Seicoleg
  • Profiad o weithio gydag unigolion sydd ag anghenion cymhleth h.y iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau mewn lleoliadau cleifion mewnol neu leoliadau cymunedol Dealltwriaeth glir o’r gwerthoedd ac egwyddorion sydd wrth wraidd adferiad a’r ffordd y gall gwasanaethau adsefydlu barhau Profiad o weithio i gynllun cefnogi y cytunwyd arno Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd meddwl a gofal cymunedol Gwybodaeth am adnoddau lleol a chenedlaethol i ddefnyddwyr y gwasanaeth
  • Sgiliau gweinyddu a threfnu Gallu i arddangos ymwybyddiaeth o risg a gallu ymateb yn hyblyg a sensitif i anghenion sy’n newid Rheoli Straen Rheoli Amser

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am fudd-daliadau tai a lles, materion tai a materion cyflogaeth ac addysgol cysylltiedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Yvonne Jones
Teitl y swydd
Manager Community Forensic Service
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 8529546
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg