Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysbyty cymunedol
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 36 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS809-1225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Inffyrmari Dinbych
Tref
Dinbych
Cyflog
£24,833 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/12/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

HCSW

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig ymuno â’n Tîm Ysbyty Cymuned i ddarparu gofal medrus, clinigol ac effeithiol. Mae Ward Mamau yn Inffyrmari Dinbych yn ward gyda 23 gwely sy’n darparu adsefydlu a gofal diwedd oes.

Bydd deilydd y swydd yn cefnogi’r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i ddarparu gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y claf.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynorthwyo nyrsys cofrestredig/ ymarferwyr i ddarparu gofal yn seiliedig ar dystiolaeth i gleifion/cleientiaid gan weithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, y claf, eu teuluoedd a gofalwyr.

Darparu gofal cleifion fel sy'n cael ei gofnodi yn y cynllun gofal nyrsio. Ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau dan oruchwyliaeth nyrs gofrestredig am hyd y sifft.

Cefnogi cleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth i gynnal eu hiechyd a'u lles;

Ymgymryd â gweithgareddau clinigol a therapiwtig penodol a dirprwyedig;

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Level 2 NVQ or willing to work towards this and completion within the first 12 months of being in post
Meini prawf dymunol
  • Cwblhau Fframwaith Gynefino Cymru gyfan

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd o fewn amgylchedd iechyd neu ofal
Meini prawf dymunol
  • Profiad clinigol

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu aros yn ddi-gynnwrf ac yn broffesiynol mewn amgylchiadau heriol
  • Gallu dogfennu gwybodaeth ysgrifenedig yn glir
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Rhinweddau amlwg ychwanegol a all fod o fudd i'r swydd e.e. gofal, cydymdeimlad, galluoedd, cyfathrebu, gwroldeb ac ymroddiad.
  • Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Chloe Williams
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850019
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg