Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg Cymunedol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 18 awr yr wythnos (Dyddiau gwaith i'w cytuno yn y cyfweliad)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC319-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Y Lawnt
- Tref
- Dolgellau
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ysgrifennyddes Meddygol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon, Ysgrifennyddes Meddygol yn parhaol ac yn gweithio hefo'r Gwasanaeth Pediatreg Cymunedol.
Yn gyfrifol am gwasanaeth gweinyddol cywir, cyfrinachol a chefnogol i gleifion, timau clinigol, gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol (e.e. Awdurdod Lleol, Trydydd Sector, Gwasanaethau Cymdeithasol) er mwyn darparu llwybr cleifion diogel ac effeithiol a darparu gwybodaeth a chefnogaeth briodol i deuluoedd a gofalwyr
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi darparu gwasanaeth ysgrifenyddol gweinyddol meddygol cynhwysfawr, o ansawdd uchel.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r gwaith o gydlynu trefniadau gweinyddol i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cefnogol o ansawdd uchel i'r meddyg ymgynghorol, y tîm meddygol a nyrsio. Gweithio'n annibynnol a bod yn atebol am drefnu/blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun i sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni. Cefnogi'r gwaith o hwyluso cleifion ar hyd llwybr diffiniedig.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o'r tîm ysgrifenyddion meddygol yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a chyfrinachol i'r Arbenigedd Clinigol a'i ffrydiau gwaith cysylltiedig. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi meddygon ymgynghorol, staff meddygol iau a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill i greu arferion a phrosesau gorau, cefnogi rheoli dyddiaduron, baich gwaith a chydlynu apwyntiadau a derbyniadau'n ymwneud â gwybodaeth i gleifion a gofalwyr.
Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau teipio da a chywir a bydd yn sicrhau bod yr arbenigedd yn cadw system effeithiol i ffeilio a chofnodi gwybodaeth. Bydd yn cynllunio a threfnu ei amser ei hun, gan addasu apwyntiadau clinig i gleifion a sicrhau bod nodiadau'n barod ar gyfer clinigau fel bo angen.
Casglu gwybodaeth ar gyfarwyddyd yr uwch ysgrifennydd meddygol a/neu reolwr gweinyddol.
Gweithio ar ei liwt ei hun i flaenoriaethu a chynllunio ei faich gwaith ei hun i fodloni cytundebau lefel gwasanaeth a dangosyddion perfformiad allweddol a bydd yn myfyrio ar ei berfformiad ei hun ac yn ei wella, gan gefnogi rheoli newid a gwelliannau i weithdrefnau a datblygiadau gwasanaeth.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol.
- RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word).
- Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- AMSPAR – City & Guilds L3.
- NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid.
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig.
- Gallu defnyddio Microsoft Office.
- Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun.
- Hyblyg ac addasadwy i alwadau cyfnewidiol y gwasanaeth.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau cymryd cofnodion.
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus.
- Gallu delio â gwybodaeth sensitif.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am sefydliadau'r GIG. Termau Meddygol.
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Cyfrannu mewn tîm.
- Agos atoch a chyfeillgar. Hyderus.
- Dibynadwy.
- Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu.
- Empathig.
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraaeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu.
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Jones
- Teitl y swydd
- Admin Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000851635
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Julie Hughes-Boyes, Dirprwy Reolwr Gweithrediadau 03000 842106
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
