Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid ymchwil
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9-5 Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC792-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Treffynon
- Tref
- Treffynnon
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Swyddog Uwch Cyllid
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn aelod o'r tîm Ymchwil a Datblygiad yn BIPBC. Bydd y swyddogaeth yn darparu cefnogaeth weinyddol ariannol i staff ymchwil ar draws y sefydliad er mwyn rheoli, gyda chefnogaeth y Tim Ymchwil, llywodraethu ymchwil a phrosesau cyflawni ar ran y sefydliad. Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio'n bennaf yn Treffynnon gyda'r posibilrwydd o weithio mewn safleoedd eraill. Bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol ariannol cynhwysfawr yn yr Adran Ymchwil a Datblygiad ac yn darparu cyngor a chefnogaeth i holl staff y sefydliad sy’n ymwneud â gwaith ymchwil. Bydd y swydd hon hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth bersonol o ymchwil a systemau ariannol ac yn rhoi cyfle i chi i weithio ar draws BIPBC gydag ystod o staff gwahanol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Am fwy o wybodaeth / ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â: [email protected]
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prosesu a rheoli'r holl agweddau ar incwm ar gyfer adran Ymchwil a Datblygiad, gan gynnwys ailgodi tâl a chontractau allanol gyda darparwyr sy'n rhan o'r GIG a darparwyr nad ydynt yn rhan o'r GIG a phartneriaid. Sicrhau bod yr holl incwm ac anfonebau yn cael eu prosesu ac y rhoir cyfrif amdanynt yn unol â gweithdrefnau penodol a Safonau Cyfrifyddu, a bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu'n unol â gofynion, amserlenni a safonau adrodd statudol drwy gwblhau eich gwaith eich hun a chydlynu â chydweithwyr ar draws yr Adran Ymchwil a Datblygiad a'r Adran Gyllid a'r Bwrdd Iechyd ehangach.
Gweithio gyda'r Tîm gan roi cymorth proffesiynol, cyngor a chymorth ariannol i Reolwyr, gan gynnal ymchwiliadau i amrywiadau ariannol cymhleth a chymryd camau unioni yn ôl yr angen.
Ymchwilio i ymholiadau ariannol, gan roi cymorth a chyngor yn ôl yr angen, gan roi cymorth i gynhyrchu a chyhoeddi adroddiad ariannol blynyddol Ymchwil a Datblygiad a ffurflenni'r cynllun gwariant misol, Cyfrifon Blynyddol Statudol y Bwrdd Iechyd yn unol â pholisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Darparu gwybodaeth rheoli ariannol amserol ac ystyrlon o fewn amserlenni tynn a sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn cydymffurfiaeth â Rheolau Sefydlog, Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a'r Cynllun Dirprwyo.
Ar brydiau, gofyniad i drafod materion ariannol gydag ymwelwyr o dramor a chleifion preifat a'u perthnasau mewn perthynas â chost a thâl.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster technegol llawn AAT neu brofiad cyfwerth amlwg
- Gradd mewn Cyllid / Cyfrifeg, neu brawf o allu i weithio ar lefel gradd
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn enwedig ym meysydd rheolaeth ariannol a chyllid, rheoli ac adrodd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd GIG ac ariannol
- Profiad o weithio â chyllidebau a chontractau wedi'u clustnodi
- Profiad sylweddol o ymchwilio, dadansoddi, pennu cyllidebau a rheoli cyllidebau, yn cynnwys adrodd ar amrywiannau a gweithredu camau unioni a'u rheoli
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am systemau cyfrifiadurol ariannol a chyfrifon Oracle
- Deall goblygiadau cyfrifeg ar hyn o bryd a deddfwriaeth y GIG fel mae'n effeithio ar eich maes gwaith
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllidebau GIG sydd wedi'u clustnodi a'r angen i adrodd ar y rhain yn unol â hynny ac yn briodol a'u rheoli.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lona Tudor Jones
- Teitl y swydd
- Research and Development manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
