Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol a Chlerigol
Gradd
NHS AfC: Band 3
Contract
Parhaol: 6 awr y dydd , dydd Llun, dydd Mawrth , dydd Mercher a dydd Iau
Oriau
Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (6 awr y dydd , dydd Llun, dydd Mawrth , dydd Mercher a dydd Iau)
Cyfeirnod y swydd
050-AC379-0826W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Support Secretary - Patient Booking Clerk

NHS AfC: Band 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Ysgrifennydd Cymorth / Clerc Archebu ymuno â'r tîm yn y Gwasanaeth Dwysedd Esgyrn (Bone Densitometry) yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.

Pwrpas y swydd hon yw cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth gweinyddol ysgrifenyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel.

Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o'r tîm ysgrifenyddol, gan ddarparu gwasanaeth gweinyddol cywir a chyfrinachol i'r Arbenigedd Clinigol a'i ffrydiau gwaith cysylltiedig.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a phrydlon i hwyluso darpariaeth gwasanaeth trefnu apwyntiadau effeithiol ac effeithlon i'r Uned. Gweithio ar eich liwt eich hun mewn sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn gymhleth i sicrhau bod cleifion yn cael trefnu apwyntiad yn unol â thargedau mynediad lleol a chenedlaethol.

Gweithio fel rhan o dîm amddisgyblaethol, yn cefnogi aelodau eraill o'r tîm i gyflawni'r targedau mynediad a gwasanaeth trefnu apwyntiadau sy'n canolbwyntio ar gleifion. Bod yn rhan o swyddogaeth weinyddol gydlynol ac integredig i'r gwasanaeth

Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Darparu gwasanaeth gweinyddol 'pwynt mynediad cyntaf' i'r holl gyfeiriadau i’r Uned.

Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad a chyfeiriad i'r Uned.

Defnyddio systemau gweinyddu cleifion lleol i reoli'r holl gyfeiriadau, rhestrau aros ac apwyntiadau i bob claf mewn modd amserol. 
Bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o'r tîm ysgrifenyddion meddygol yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a chyfrinachol i'r meddyg ymgynghorol, staff meddygol, radioleg a nyrsio a'i ffrydiau gwaith cysylltiedig. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi meddygon ymgynghorol, staff meddygol iau a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill i greu arferion a phrosesau gorau, cefnogi rheoli dyddiaduron, baich gwaith a chydlynu apwyntiadau a derbyniadau'n ymwneud â gwybodaeth i gleifion a gofalwyr.

Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau teipio da a chywir a bydd yn sicrhau bod yr arbenigedd yn cadw system effeithiol i ffeilio a chofnodi gwybodaeth. Bydd yn cynllunio a threfnu ei amser ei hun, gan addasu apwyntiadau clinig i gleifion a sicrhau bod nodiadau'n barod ar gyfer clinigau fel bo angen.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • GCSE’S C and above in English and Maths or equivalent experience.
  • NVQ Level 3 in Administration or equivalent experience.
  • IT qualification or equivalent level of experience using Microsoft packages
  • RSA/OCR Level 2 or equivalent experience
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • AMSPAR-City & Guilds Level 3

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn y GIG.
  • Profiad blaenorol o reoli rhestrau aros.

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU

Meini prawf hanfodol
  • • Yn siarad Cymraeg.
  • • Gwybodaeth am ystod o brosesau gweinyddol ac ysgrifenyddol
  • • Yn cyfathrebu'n gymwys, yn broffesiynol ac yn effeithiol â phob lefel o staff, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • • Yn hyddysg wrth ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office.
  • • Profiad o gynllunio, trefnu a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun.
  • • Yn hyblyg ac yn gallu addasu i ofynion gwasanaeth sy'n newid.
  • • Tystiolaeth o Ddatblygiad Personol Parhaus.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bridget Coburn
Teitl y swydd
Site Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851852
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg