Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC010-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Clwstwr - Conwy Ddwyrain
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i unigolion brwdfrydig, uchelgeisiol a blaengar i ymuno â thîm Gofal Sylfaenol Ardal y Canol i gefnogi clystyrau ledled Sir Conwy a Sir Ddinbych. Bydd deilydd y swydd yn canolbwyntio'n benodol ar Ddwyrain Conwy.
Mae Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn feysydd cyffrous i weithio ynddynt ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn clystyrau ac ardaloedd lleol ledled Cymru er mwyn gwasanaethu'r boblogaeth leol ar ffurf dull system gyfan.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr clwstwr ac aelodau ardaloedd lleol i ddatblygu rolau a swyddogaethau yn unol â datblygiadau ardaloedd lleol Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd.
Bydd y cydlynydd yn gyfrifol am gynorthwyo a hwyluso clystyrau ac ardaloedd lleol, gan gefnogi anghenion y boblogaeth trwy gynllunio a darparu gwasanaethau effeithiol a chadarn, ac arwain datblygiad cyflym.
Bydd deiliaid y swyddi hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau ardaloedd lleol ehangach yn cael eu datblygu a'u defnyddio'n effeithiol fel rhan hanfodol o fodel darparu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol cryf.
Os oes gennych chi'r sgiliau a'r gallu i fynd â'r ardaloedd lleol i'r lefel nesaf o ran iechyd a gofal cymdeithasol, a'r
uchelgais i lunio'r economi iechyd ar draws Sir Conwy a Sir Ddinbych, byddwn yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un cyfle i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif ddyletswyddau’r swydd fydd:
Helpu i ddatblygu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol drwy hwyluso datblygu, dogfennu a gweithredu cynlluniau Clwstwr.
Arwain ar weithredu prosiectau a meysydd gwaith penodol.
Cefnogi cyfarfodydd Cydweithfeydd a Chlwstwr gyda logisteg a llywodraethiant yn ôl yr angen.
Cefnogi datblygiad perthnasoedd gwaith cryf o fewn rhwydwaith y clwstwr.
Casglu a dadansoddi'r data sydd ei angen i wneud penderfyniadau cynllunio ac i fonitro camau gweithredu.
Datblygu a pharatoi adroddiadau ysgrifenedig yn brydlon ar gyfer cyfarfodydd Clwstwr, cyfarfodydd Traws-glwstwr a'r Tîm Ardal.
Cyfathrebu'n uniongyrchol ag aelodau'r Clwstwr a'r Cydweithfeydd ar y ffôn, e-bost, wyneb yn wyneb a thrwy roi cyflwyniadau i grwpiau bach.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio i sefydliad GIG
- Profiad o ddadansoddi data sy'n ymwneud ag iechyd
- Profiad o reoli rhanddeiliaid drwy ddefnyddio sgiliau dylanwadu, negodi a hwyluso
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar draws gofal cychwynnol a gofal eilaidd
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel gradd neu brofiad priodol cyfatebol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfarfodydd gyda hyd at 10 o bobl o wahanol ddisgyblaethau
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda grwpiau o bobl ar wahanol lefelau o fewn sefydliadau
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno ysgrifenedig a llafar wedi'u datblygu'n dda
- Ability to facilitate meetings of up to 10 people from different disciplines
Meini prawf dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg
- Sgiliau Rheoli Prosiect
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ragorol mewn TG a systemau rheoli gwybodaeth gan gynnwys Cynhyrchion Microsoft
- Gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd cychwynnol a chymunedol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o reoli perfformiad
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Yn barod ac yn gallu addasu i amgylchedd gwaith sy’n newid yn gyson.
- Gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm
Gofynion Perthnosal Eraill
Meini prawf dymunol
- Yn gallu teithio rhwng lleoliadau yn brydlon.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nichola Cook
- Teitl y swydd
- Senior Cluster Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811031926
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
