Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Gweinyddol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC324-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cydlynydd yr Academi
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Cydlynydd Academi
Yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Rydym yn awyddus i benodi Cydlynydd trefnus a rhagweithiol i gefnogi’r gwaith o redeg yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol o ddydd i ddydd. Mae hon yn rôl allweddol sy'n gyfrifol am ddarparu gwaith gweinyddol o ansawdd uchel, cydlynu rhaglenni hyfforddi, cynnal a chadw systemau a rheoli a dadansoddi data, gan sicrhau bod yr Academi yn gweithredu'n effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o fewn y tîm, ynghyd ag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Y Rôl a Chyfrifoldebau
Mae'r swydd Cydlynydd hon yn arwain swyddogaethau gweinyddol yr Academi, a bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys;
- Darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon, cywir a phrydlon
- Rheoli'r broses hyfforddi ac addysg gan gynnwys y gofrestr a phresenoldeb
- Cydlynu’r cynnwys ar gyfer tudalennau cyfryngau cymdeithasol yr Academi
Rheoli mewnflwch yr Academi
- Cofnodi data a dadansoddi
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMHWYSTERAU AC/NEU PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Addysg mewn Saesneg a Mathemateg TGAU (A -C) neu gyfwerth
- NVQ Lefel 4 mewn Gweinyddiaeth neu gyfwerth/profiad
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 2 mlynedd o weithio yn GIC mewn swydd glerigol, ysgrifenyddol neu oruchwylio
- Safon uchel o sgiliau gweinyddiaeth / trefnu a rheoli amser
- Safon uchel o sgiliau blaenoriaethu a chywirdeb
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
- Gallu gweithio oddi fewn cyfunion amser ac yr allu i flaenoriaethu
NODWEDDION PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ddefnyddio Microsoft Office a gallu i ddysgu rhaglenni arall os oes angen
Meini prawf dymunol
- Gallu defnyddio menter ei hunain I ddandansoddi problemau cymleth
GWERTHOEDD
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu yn agored ac onest
ERAILL
Meini prawf hanfodol
- Safon uchel o sgiliau cyfathrebu
- Y gallu i weithio mewn swyddfa brysur ac amlorchwyl
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stella Wright
- Teitl y swydd
- Lead Research Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
