Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth Technegydd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST086-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Technegydd Fferylliaeth Glinigol - Llawfeddygaeth Trwm a Orthopedig
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn natblygiad canolfan orthopedig ddewisol Newydd yn Ysbyty Llandudno, lle mae gwasanaeth BIPBC yn cael ei ganoli. New £29.4m Elective Orthopaedic Hub at Llandudno Hospital takes shape - Betsi Cadwaladr University Health Board. Mae cyfle cyffrous i dechnegydd fferyllfa brwdfrydig a phrofiadol ddod yn rhan hanfodol o’r brosiect hwn drwy gefnogi defnydd a optimeiddio meddyginiaethau diogel ac effeithiol a stiwardiaeth opioidau.
Bydd cyfleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus integreiddio o fewn y tîm amlddisgyblaethol a chefnogi gyda gweithredu canllawiau clinigol. Byddwch yn ymuno a’n tîm fferyllfa lawfeddygol ganolog BIPBC a hefyd yn cefnogi gyda datblygu gwasanaeth fferyllfa yn y glinig asesu cyn llawdriniaeth. Byddwch yn cael eich annog i ymgymryd a mentrau gwella ansawdd, datblygu addysg a chefnogaeth i staff a chleifion ac hefyd i gefnogi adolygiadau digwyddiadau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’n ddisgwyliedig i chi fod yn hunangymhellol gyda sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a rhyngbersonol rhagorol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa o weithio mewn adran arloesol a thrawsnewidiol a’n disgwyliad yw bod ein holl dim fferyllfa yn gwneud y mwyaf o’u potensial. Mae cyfleoedd ymchwil a datblygu ar gael hefyd ac rydym yn annog datblygiadau proffesiynol yn weithredol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Technegydd fferyllfa sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).
- Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol neu gymhwyster cyfwerth.
- BTEC Lefel 4 mewn gwasanaethau fferyllol clinigol neu gymhwyster cyfwerth.
- Sgiliau TG.
- Profiad ôl-gymhwyso sylweddol a gwybodaeth am ddyletswyddau optimeiddio meddyginiaethau.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Rheoli/ILM
- Cymhwyster Gwirio Achrededig WCCPE neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster Rheoli Meddyginiaethau Achrededig Cenedlaethol WCCPE neu gymhwyster cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Lefel sylweddol o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwasanaethau fferylliaeth hyd at lefel gradd
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ystod eang o wasanaethau fferyllol
- Profiad o reoli tîm fferyllfa
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain.
- Sgiliau rheoli amser da.
- Gallu cymell a datblygu eich hun ac eraill.
- Sgiliau dosbarthu.
- Sgiliau cwnsela cleifion.
- Gallu blaenoriaethu a dirprwyo.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfweld.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau fferyllol ar gyfer maes arbenigol hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol.
- Gwybodaeth am reoli cyllideb Gwybodaeth glinigol gyfredol am feddyginiaethau.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am ddatblygiadau yn y gwasanaeth iechyd a fydd yn effeithio ar y maes cyfrifoldeb
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gweithio’n dda mewn tîm.
- Gallu gweithio ar eich liwt eich hun.
- Canolbwyntio ar y claf/gwasanaeth.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio rhwng safleoedd gwaith yn brydlon.
- Cymryd rhan mewn darparu gwasanaethau Fferyllol oriau estynedig, ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i gyflawni lefel briodol neu gymhwysedd llafar o fewn amserlen y cytunir arni
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Haimon Chaudhry
- Teitl y swydd
- Pharmacist Team Leader - Surgery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845360
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Stephanie Hough - Chief Pharmacy Technician
03000 845431
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector