Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rhewmatoleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC442-0926W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno
- Tref
- Llandudno
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 Y flwyddyn Pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Clerc Archebu
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Gweithio mewn canolfan archebu dan bwysau uchel, yn amgylchedd canolfan alwadau prysur, i ddarparu swyddogaeth weinyddol gywir a chyflym i hwyluso darparu gwasanaeth archebu canolog proffesiynol, effeithlon ac effeithiol, ar gyfer amrywiaeth o gleifion allanol.
Bydd angen i'r person ddarparu cymorth i'r ysgrifenyddion meddygol, gan olrhain ymchwiliadau, gwneud ffeilio, dilyn nodiadau ac ysgrifennu llythyrau i gleifion.
Defnyddio menter eich hun mewn sefyllfaoedd sy'n weithiau cymhleth i sicrhau bod cleifion yn cael eu harchebu yn unol â'r Targedau Mynediad Lleol a Cenedlaethol.
Gweithio fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol, gan gefnogi aelodau eraill o'r tîm i gyflawni'r targedau mynediad a gwasanaeth archebu sy'n canolbwyntio ar y claf. Bod yn rhan o swyddogaeth weinyddol gytûn ac integredig i'r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth gweinyddol ‘pwynt mynediad cyntaf’ ir holl gyfeiriadau at y Ganofal Trefnu Apwyntidau.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad a chyfeiriad at y Bwrdd Iechyd.
Defnyddio systemau gweinyddu cleifion lleol I reoli’r holl gyfeiriadau, rhestrau aros ac apwyntiadau i bob claf yn brydlon.
Rheoli eich baich gwaith eich hun heb fawr ddim goruchwyliaeth. Bydd staff yn gweithio i weithdrefnau / protocolau Gweithredu Canolfan Trefnu Apwyntiadau Cleifion (PABC) diffiniedig iawn a pholisiau BIPBC. Bydd yn Defnyddio ei synnwyr cyffredin wrth ddelio a phroblemau i asesu pan fo angen uwch gyfeirio. Mae’n rhaid bod gan ddeilydd y Swydd y gallu i gynllunio i flaenoriaethu, a phan fo’n briodol ail-flaenoriaethu ei llwyth Gwaith ei hun I sicrhau bod amserlenni cytunedig yn cael eu cyflawni.
Ateb ymholiadau dros y ffôn i’r adran yn brydlon, delio ag ymholiadau, olrhain cynnydd yn ddoeth a phroffesiynol a sicrhau bod cyfrinachedd cleifion yn cael ei gadw. Defnyddio dyfarniad, empathi a doethineb i asesu sefyllfaoedd fel meant yn codi, a chymryd camau Gweithredu priodol, gan uwchgyfeirio i’r Rheolwr priodol pan fo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn dod o hyd i'r disgrifiad swydd llawn a manyleb y person trwy glicio ar "ymgeisio nawr" ar y swydd hon
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Safon Gyffredinol Dda o Addysg (e.e. TGAU mewn Mathemateg a Saesneg A-C ac uwch neu gyfwerth.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o dermau meddygol sylfaenol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn ysbyty llym/meddygfa neu amgylchedd Canolfan Alwadau
- Profiad o ddelio â’r cyhoedd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio'n uniongyrchol â staff clinigol/ymgynghorol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol arbennig er mwyn delio â chlinigwyr, uwch reolwyr a staff clercyddol
- Gallu i ganolbwyntio ar ddyletswyddau Gweinyddol mewn amgylchedd anrhagweladwy, gallu i reoli gwaith gydag ymyriad cyson gan gleifion, staff meddygol ac asiantaethau allanol
Meini prawf dymunol
- Cymwys yn y defnydd o Microsoft office
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gyfarwydd â gweithdrefnau gweinyddol rhestrau aros a materion polisi
- Gwybodaeth am WPAS neu systemau gweinyddu cleifion eraill neu brofiad o ddefnyddio cronfeydd data ac excel i drefnu meysydd data a'u ffiltro
Gofynion eraill
Meini prawf hanfodol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Hannah Taylor
- Teitl y swydd
- Admin team lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852058
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
