Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rheolwr
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC675-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandudno/Ysbyty Brenhinol Alexandra
- Tref
- Llandudno/Rhyl
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cydlynydd Clwstwr Uwch
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n angerddol dros wella iechyd a lles yn ein cymunedau? Ydych chi’n mwynhau dod â phobl at ei gilydd, adeiladu partneriaethau, a gwneud i bethau ddigwydd?
Rydym yn chwilio am Uwch Gydlynydd Clwstwr brwdfrydig, rhagweithiol ac arloesol i arwain y Tîm Cefnogi Clystyrau yng Nghymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol, gan gefnogi datblygiad y clystyrau ar draws Sir Conwy a Sir Ddinbych.
Dyma gyfle gwych i weithio ar flaen y gad ym maes datblygiad clwstwr yng Ngogledd Cymru, lle byddwch yn gweithio gyda grŵp eang o randdeiliaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus ehangach.
Byddwch yn derbyn cymorth gan dîm galluog a phrofiadol o Gydlynwyr Clwstwr, Arweinwyr Clwstwr ac Arweinwyr Cydweithfeydd Proffesiynol sy’n weithgar ac yn graff eu barn, ynghyd ag arweiniad cryf gan Dîm Rheoli Gofal Sylfaenol. Dyma rôl werthfawr sy’n cynnig boddhad mawr, gyda chyfleoedd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth – drwy hybu gwelliannau ac arloesedd ym maes gofal sylfaenol, ac yn helpu i sicrhau canlyniadau gwell o ran iechyd a llesiant i’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ar eu cyfer.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y byddech chi’n ei fwynhau, byddem wrth ein bodd yn dysgu mwy amdanoch chi a chynnig cyfle i chi ddysgu mwy am waith y clystyrau- felly, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gyfrifol am arwain a chydlynu datblygiad cynlluniau clwstwr lleol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol fel Cymru Iachach a’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol ag Arweinyddion Clwstwr ac Arweinyddion Cydweithfeydd Proffesiynol - gan gynnwys uwch weithwyr gofal iechyd ym meysydd Meddygaeth Deuluol, Optometreg, Fferylliaeth Gymunedol a Nyrsio Cymunedol – i’w cefnogi yn eu rolau arwain clwstwr, ac i’w cynorthwyo i siapio blaenoriaethau sy’n ymateb i anghenion y boblogaeth leol.
Mae’r gallu i weithio mewn partneriaeth yn hanfodol. Byddwch yn unigolyn sy’n mwynhau adeiladu perthnasoedd cadarn, yn cyfathrebu’n glir, ac yn ysbrydoli eraill i rannu’r un weledigaeth a symud ymlaen gyda chi. Byddwch yn ymroddedig i weithio fel rhan o system gyfan, yn gallu llywio sefyllfaoedd cymhleth, ac yn gyfforddus yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol. Byddwch yn helpu i sicrhau bod gwaith y clystyrau yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i flaenoriaethau cenedlaethol ac yn arwain at welliannau gwirioneddol ym mywydau pobl leol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o radd meistr neu brofiad o weithio i’r lefel hwnnw
- Cymhwyster ôl-radd mewn rheoli neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Prince2 neu gyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- 3 blynedd o brofiad GIG neu reolaeth gofal cymdeithasol neu gyfatebol
- Tystiolaeth o brofiad datblygu a chyflwyno adroddiadau/gwybodaeth i hysbysu penderfyniadau rheoli
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar draws sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, sectorau gwirfoddol ac annibynnol
- Profiad blaenorol o asesiad anghenion a/neu fapio gwasanaeth
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau dadansoddi a chasglu gwybodaeth ardderchog
- Gallu cyflwyno ac egluro canlyniadau dadansoddiad yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Gallu dehongli, cyfosod a phrosesu llawer o wybodaeth a data cymhleth i lunio casgliadau gan gymryd i ystyriaeth y cyd-destun sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg neu’n fodlon cyrraedd lefel briodol
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth dda o’r amgylchedd rheoli iechyd a/neu ofal cymdeithasol yng Nghymru a rolau a chyfrifoldebau
- Gwybodaeth am y gwasanaethau cymuned lleol a chenedlaethol ac agenda
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am setiau data gofal iechyd a chymdeithasol, safonau gwybodaeth a phrosesau
NODWEDDION PERSONOL (Dangosadwy)
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau personol gydag ystod eang o unigolion ac o fewn grwpiau.
- Gallu gweithio fel rhan o dîm
- Gallu gweithio’n hyblyg
- Hunan gyfeiriol, Cwblhawr / gorffennwr
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio ar draws dau safle os/pan fydd angen. Defnyddiwr car
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jodie Berrington
- Teitl y swydd
- Deputy Assoc Director of Primary Community Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07929845397
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Emma Rowan
07971 996 637
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector