Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nurse in Education Staff
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- 3 mis (Mae'r swydd hon yn un tymor penodol/secondiad tan 31.03.2027 er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener 830yn tan 430yh)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR691-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bron Afon, Tim Addysg Llawr cyntaf Bryn Y Neuadd Llanfairfechan LL33 0HH
- Tref
- LLANFAIRFECHAN
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Addysg a Datblygu Cynorthwywyr Gofal Iechyd
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn un tymor penodol/secondiad tan 31.03.2027 er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Addysg a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Cydlynydd Addysg a Datblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCA). Mae hon yn rôl werth chweil i unigolyn brwdfrydig ac ysgogol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn addysg a chefnogi twf proffesiynol Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (GCGI).
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu, cydlynu a darparu rhaglenni addysg a hyfforddiant sy'n cefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ledled y Bwrdd Iechyd. Gan weithio'n agos gyda rheolwyr, darparwyr addysg, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) a rhanddeiliaid allweddol, byddwch yn helpu i sicrhau bod staff yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy'n cefnogi datblygiad gyrfa, cynaliadwyedd y gweithlu a gofal rhagorol i gleifion.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cydlynu a chefnogi rhaglenni addysg a datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Phrentisiaid.
- Darparu a chefnogi'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a chymwysterau galwedigaethol ar Lefelau 2, 3 a 4.
- Cefnogi llwybrau prentisiaeth a mentrau datblygu'r gweithlu ledled y Bwrdd Iechyd.
- Darparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth addysgol i ddysgwyr, aseswyr a rheolwyr.
- Cynnal gweithgareddau sicrwydd ansawdd a chefnogi prosesau cofrestru ac ardystio cymwysterau.
- Datblygu a chynnal partneriaethau effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys colegau, prifysgolion a chyrff dyfarnu.
- Monitro cynnydd dysgwyr a chynhyrchu adroddiadau i gefnogi cynllunio'r gweithlu a gwelliant gwasanaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
english
Meini prawf hanfodol
- • Cymhwyster gweithiwr gofal iechyd cofrestredig proffesiynol neu gymhwyster iechyd/gofal cymdeithasol perthnasol wedi'i ategu gan brofiad amlwg o addysg a datblygu'r gweithlu/cynorthwywyr gofal iechyd
- • Cymhwyster lefel gradd neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol a gafwyd drwy ymarfer proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster addysgu neu hyfforddi (e.e. modiwl Paratoi i addysgu.)
english
Meini prawf hanfodol
- • Cymhwyster Asesydd cydnabyddedig (e.e. Aseswr Ymarfer, CAVA, A1 neu gymhwyster cyfatebol). • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol Cydnabyddedig (e.e. Dyfarniad Asesu Ansawdd Mewnol, V1 neu gymhwyster cyfatebol, neu barodrwydd i gwblhau'r cymhwyster o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- neirian jennings
- Teitl y swydd
- Head of Education and Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07919302304
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sam Owens
Pennaeth Addysg a Datblygu
03000 852743
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
