Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gorchuddion
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS022-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd, Ysbyty Bryn-Y-Neuadd
- Tref
- Llanfairfechan
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Technegydd Gorchuddion Clinigol
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i un Technegydd Gorchuddion Clinigol Band 4 i ymuno â'r Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ardal ddaearyddol fawr yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd y gwaith wedi'i leoli yn y gweithdy dodrefnu a bydd yn cynnwys gwneud gorchuddion i ddyfeisiau i ddefnyddwyr cadair olwyn ac addasu offer symudedd modur a di-fodur. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys staff clinigol, technegol a gweinyddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif amcanion y swydd yw:
- Gweithgynhyrchu gorchuddion ac ategolion i ddyfeisiau meddygol wedi’u haddasu, ac addasu offer oddi-ar-y-silf i gyd-fynd a anghenion y cleifion.
- Creu patrymau i gynhyrchu y gorchuddion – mae iDigit yn cael ei ddefnyddio i troi y patrymau papur yn ddigidol.
- Cefnogi y clinigwyr ac yn cynnig cyngor ar ddulliau cynhyrchu a defnyddiau.
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu sgiliau gorchuddion a bydd yn gofyn i chi addasu i fodloni amrywiaeth eang o ofynion technolegol a chlinigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu dehongli gwybodaeth ysgrifenedig ac ar ffurf diagramau a ddefnyddir i nodi gwaith
- Gallu adnabod problemau a dod o hyd i'r cydweithwyr perthnasol i'w helpu i'w datrys
- Sgiliau cyfathrebu clir ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu cyfathrebu â chydweithwyr i oresgyn heriau fel tîm
- Gallu sefydlu, cynnal a chwblhau gwaith o fewn cyfyngiadau a therfynau amser; gan gynnwys ail flaenoriaethau ei waith ei hun lle bo angen
Meini prawf dymunol
- Empathi amlwg, er mwyn rhagweld anghenion defnyddiwr terfynol y cyfarpar, ac addasu a datblygu'r dyluniadau ar gyfer y gorchuddion ffabrig fel y bo'n ofynnol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol – lefel 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BTEC/SCOTVEC neu City & Guilds hyd at Lefel Diploma mewn Gorchuddion a Dodrefnu meddal neu brofiad/cymhwyster cyfatebol
- Gwybodaeth ymarferol am rinweddau ffisegol amrywiaeth o ddeunyddiau gorchuddio
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad y gellir ei arddangos o weithio mewn amgylchedd gwnïo a gorchuddio
- Profiad y gellir ei arddangos o weithio gyda chyfarpar gwnïo
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithgynhyrchu Dyfeisiau Meddygol wedi'u Teilwra'n Arbennig
- Profiad o weithgynhyrchu eitemau o fewn System Rheoli Ansawdd
- Profiad o weithio gyda defnyddwyr cadair olwyn a/neu brostheteg
- Profiad o weithio gyda meddalwedd llunio neu batrymu digidol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alys Evans
- Teitl y swydd
- Workshop Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852819
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
