Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dietetig
Gradd
Gradd 4
Contract
9 mis (Cyfnod Penodol tan 31.3.26)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS249-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cyngor Ynys Mon, Llangefni
Tref
Llangefni
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Cymorth Teulu Dieteteg (Ymarferydd Cynorthwyol)

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 31 MAWRTH 2026 OHERWYDD CYLLIDO

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

Mae cyfle unigryw i ymuno â phrosiect newydd cyffrous wedi codi o fewn rhaglen beilot ar Ynys Môn sy'n cefnogi iechyd a lles plant a theuluoedd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr cymorth i deuluoedd o dan arweiniad yr Uwch Gydlynydd Prosiect, gan ddarparu ac ehangu gwasanaethau cymorth i deuluoedd.  Bydd hyn yn cynnwys profi ffyrdd newydd o weithio i ymgysylltu â theuluoedd yn y cartref yn ogystal â darparu ymyriadau yn y gymuned, gan ddefnyddio ystod o ddulliau cytunedig i annog newidiadau cadarnhaol i fwyd, maeth ac ymddygiadau gweithgarwch corfforol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n gymharol annibynnol o fewn tîm bach, tra hefyd yn cydweithio'n agos gyda aelodau eraill o'r tîm, gan weithio i fframwaith y cytunwyd arno gyda rhywfaint o ymreolaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd am y tasgau hyn.  Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am lwyth achos, gan gynnwys darparu cymorth i grwpiau o deuluoedd a gweithio'n gydgynhyrchiol gydag ystod o bartneriaid a sefydliadau mewn amgylchedd cymunedol cymhleth.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r prosiect sy'n arwain at fonitro a sicrhau ansawdd ymyriadau ac yn cyfrannu at werthuso canlyniadau a chynaliadwyedd dulliau a brofir.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif Gyfrifoldebau:

Cynllunio, cydlynu a darparu sesiynau addysg 1 i 1 a grŵp yn seiliedig ar faeth, yn cynnwys sgiliau coginio ymarferol ac ymyriadau maeth yn y gymuned i deuluoedd, o dan gyfarwyddyd y prosiect Dietegydd ac Uwch Arweinydd Prosiect.

Ysgogi, arwain ac annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hybu iechyd, monitro eu cynnydd ac adrodd ar ganlyniadau/canfyddiadau i'r tîm a/neu bartneriaid ehangach.

Gweithio'n annibynnol o dan fenter eich hun ar feysydd prosiect penodol, fel y cytunwyd gyda'r Uwch Arweinydd Prosiect, gan ofyn am gyngor a chefnogaeth fel sy'n hanfodol.

Datblygu a chynnal gwaith partneriaeth cadarnhaol ar draws ystod o randdeiliaid i hyrwyddo'r prosiect, ymyriadau a chefnogi egwyddorion allweddol iechyd a lles yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu gyda staff awdurdod lleol, cyd-weithwyr iechyd, staff hamdden, a'r sector wirfoddol.

Cymryd rhan mewn trafodaethau a fforymau partneriaeth i rannu profiadau dysgedig a myfyrio ar feysydd llwyddiant a'r rhai i'w datblygu ymhellach.

Cynhyrchu adnoddau a deunyddiau hyfforddi, megis cyflwyniadau PowerPoint, taflenni gwybodaeth, arddangosfeydd, taflenni ac offer gwerthuso

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol dda. Tystiolaeth gadarn o sgiliau iaith Saesneg a mathemateg
  • Cymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gofal Iechyd ynghyd a chyrsiau byr / profiad cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag at gymhwyster lefel 4 o fewn 3 blynedd yn y swydd
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn pwnc cysylltiedig - maeth / iechyd
  • Tystysgrif mewn hylendid bwyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio yn GIG, gofal cymdeithasol neu leoliadau cymuned
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd a chymwysiadau TG e.e. Microsoft Office, TEAMs ac Outlook.
  • Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd / grwpiau cymunedol perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Presenoldeb mewn cyrsiau/cynhadleddau perthnasol.
  • Mynychu cyrsiau perthnasol / tystiolaeth o hyfforddiant pellach mewn meysydd perthnasol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol gyda theuluoedd/grwpiau cymuned.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog - llafar ac ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Christine Ewing
Teitl y swydd
Senior Health Improvement Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07811 031684
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg