Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Tim Ardal Gorllewin
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (tan 30.01.27 - Gorchudd Mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 21 awr yr wythnos (swydd gylchdro i weithio dydd a nos)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR203-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Nyrsio Dosbarth Llangefni
- Tref
- Llangefni
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Staff Cymunedol
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.
A ydych chi’n nyrs gofrestredig brofiadol â gweledigaeth, cymhelliant a brwdfrydedd diddiwedd? A ydych chi’n ffynnu o gael newid a her? Yna, dewch i ymuno â’n Gwasanaeth Nyrsio Ardal sy’n ddeinamig, yn rhagweithiol ac yn flaengar gydag ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i’n cleifion. Credwn mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi i’n staff ac felly, rydym yn awyddus ar hyn o bryd i recriwtio Nyrsys Cymunedol Band 5 llawn cymhelliant ac angerdd sy’n dymuno datblygu a gweithio tuag at un o’r rolau canlynol:
• Nyrs Ardal Band 6 trwy ymgymryd â’r Cymhwyster i Nyrsys Ardal.
• Rheolwr Achosion Cyflyrau Cronig trwy ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer clefydau penodol i roi gofal wedi’i seilio ar dystiolaeth i’r unigolion hynny ag anghenion hynod gymhleth.
• Ymarferwyr Nyrsio trwy fabwysiadu ymagwedd fodiwlaidd er mwyn ennill y sgiliau clinigol sydd eu hangen.
Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu â'r adran i gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â gofynion y swyddi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog ynghyd â’r gallu i roi gofal sy’n glinigol effeithiol yn y Tîm Nyrsio Ardal.
Mae Uwch Adran Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu Gwasanaethau Nyrsio Ardal ar draws Sir Fon a Gwynedd gan weithio mewn ffordd integredig â sefydliadau partner i roi gofal o ansawdd uchel wedi’i seilio ar dystiolaeth er mwyn i gleifion gael aros yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, gan osgoi gorfod derbyn cleifion i’r ysbyty, gan rymuso’r claf o ran hunanreoli a rhoi triniaeth a gofal di-dor sy’n canolbwyntio ar gleifion ar waith.
Rhaid gallu teithio rhwng cartrefi cleifion o fewn trefi ac ardaloedd gwledig mewn modd amserol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig neu o fewn 2 fis o derbyn PIN.
- Gwybodaeth o Ofal Cychwynnol.
Meini prawf dymunol
- Gweithio tuag at ddiploma neu radd. Profiad o weithio yn y gymuned
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol Sgiliau dadansoddi critigol.
- Gallu cynnal safonau gofal uchel
- Gallu clinigol
Meini prawf dymunol
- Agwedd hyblyg at waith
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o hyfforddiant proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth o godau ymddygiad proffesiynol.
- Gwybodaeth eang o sgiliau a galluoedd nyrsio cymuned perthnasol.
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Arall Gweithio oriau anghymdeithasol Gallu teithio i gartrefi cleifion mewn modd amserol Siaradwr Cymraeg Gwirio dogfennau Gwirio CRB Geirda.
- Ability to travel between patient’s homes in a timely manner.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Jones
- Teitl y swydd
- District Nurse Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000853085
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Metron Anne Williams
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
