Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwella Iechyd
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC348-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Preswylfa
- Tref
- Y Wyddgrug
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Swyddog Gweinyddol a Chyflenwad
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Helpa Fi i Roi’r Gorau BIPBC fel Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau. Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau rheoli amser, cynllunio a threfnu rhagorol a'r gallu i weithio'n annibynnol yn ogystal ag fel rhan o dîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd(ymgeiswyr) llwyddiannus yn cynorthwyo’r Ymarferwyr Gwella Iechyd i gyflawni’r cylchoedd gwaith ffyrdd iach o fyw, rheoli pwysau ac iechyd meddwl ac yn cyflawni tasgau gweinyddol ar gyfer y tîm a fydd yn cynnwys tasgau megis archebu adnoddau, trefnu llogi ystafelloedd, talu anfonebau a archebu cyfranogwyr ar gyrsiau.
Mae profiad o weithio ym maes hybu / gwella iechyd ynghyd â rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am gyflyrau a allai effeithio ar iechyd a lles yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn goruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd a chynlluniau datblygiad personol i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i ymgeiswyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau ac Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Prosesu geiriau hyd at RSA III / NVQ Lefel 3 neu lefel gyfatebol o brofiad
- Tystiolaeth wedi'i gofnodi ynghylch cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant
- Dealltwriaeth o oblygiadau gwahaniaethau diwylliannol o ran darparu gwasanaethau
- Dealltwriaeth o rôl y tîm Helpa Fi i Stopio
- Hunan gymhelliant ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Gwybodaeth dda am MS Office
- Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau swyddf
- Gwybodaeth am y GIG a Byrddau Iechyd Lleo
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg mewn swydd weinyddo
- Profiad o gyfathrebu â staff proffesiynol a’r cyhoedd ar bob lefel
- Profiad o ddelio â data cyfrinachol, sensitif, yn ogystal â chynnal a storio cofnodion yn briodol
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith aml-ddisgyblaethol ac aml-asiantaeth
- Profiad o ddarparu rhaglenni hybu iechyd
- Profiad o weinyddu systemau cyllid, e.e. ceisiadau, monitro cyllideb
Sgiliau a Nodweddion
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n annibynnol gydag unigolion a / neu grwpiau
- Sgiliau rhyngbersonol rhagoro
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau clywedol / canfyddiadol da a'r gallu i ganolbwyntio
- Ymwybyddiaeth o ddeinameg tîm a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
- Sgiliau cynllunio a threfnu
- Gallu gweithio dan bwysau
- Stamina corfforol ac emosiynol i ddelio â sefyllfaoedd sensitif ac anodd
- Sgiliau cyfrifiadurol e.e. defnyddio Word, Excel a PowerPoint yn gymwys
Meini prawf dymunol
- Sgiliau creadigol i gefnogi datblygu a defnyddio adnoddau a deunyddiau
- Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 o ran deall a siarad Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n hyblyg yn unol ag anghenion y gwasanaeth a blaenoriaethu llwyth gwaith priodol
- Gallu hybu delwedd broffesiynol y sefydliad
- Sgiliau rheoli amser da
- Tystiolaeth o allu i dderbyn cyfarwyddyd, adrodd yn ôl i'r goruchwyliwr, gweithio o fewn canllawiau ac ymateb yn briodol i adborth
- Parodrwydd a gallu i ymgysylltu'n llawn mewn cyfleoedd goruchwylio ac adborth i sicrhau dysgu, atebolrwydd a chefnogaeth
- Gallu bod yn aelod myfyriol o dîm
- Parodrwydd a gallu i deithio rhwng safleoedd
- Dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru
Meini prawf dymunol
- Gallu cludo adnoddau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Suzanne Williams
- Teitl y swydd
- Service Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
