Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
026-CVB-410
Cyflogwr
Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (enw gweithredol Llais)
Math o gyflogwr
Public (Non NHS)
Gwefan
Llais Powys Y Drenewydd Tŷ Ladywell
Tref
Y Drenewydd
Cyflog
£24,433 - £26,060 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (enw gweithredol Llais) logo

Cynorthwyydd Gweinyddol

Band 3

Byddwch yn rhan o Llais a helpwch ni i godi pŵer a dylanwad lleisiau pobl i lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pawb.

Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru yn y modd y maent yn derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Trosolwg swydd

Ein rôl yw ymgysylltu â chleifion a chyhoeddus Cymru a gwrando arnynt. Rydym yn gwneud hyn drwy estyn allan at bobl yn eu cymunedau lleol, clywed eu barn a deall eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn rhoi adborth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i lunio a dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol.

Ydych chi’n angerddol am wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Mae cyfle gwych wedi dod ar gael yn Llais ar gyfer Cynorthwyydd Gweinyddol, Band 3, 15 awr yr wythnos.

Mae hon yn rôl hybrid, gyda gweithio o bell a swyddfa. 

Mae’r gallu I gyfarthrebu yn Gymraeg yn dymunol.

Prif Ddyletswyddau’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol ar draws ystod o dasgau i sicrhau gweithrediad effeithiol swyddfa ranbarthol Llais. Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys:

  • Gweinyddiaeth
    • Cadw systemau ffeilio swyddfa gyffredinol a rhestrau cyhoeddiadau/ymgynghoriadau yn gyfredol.
    • Prosesu’r holl bost i mewn ac allan, gan gynnwys logio a defnyddio peiriant stampio.
    • Derbyn a gwirio nwyddau a ddanfonwyd, sicrhau bod lefelau stoc ysgrifbapur a chyflenwadau’n cael eu cynnal.
    • Paratoi archebion stoc o dan oruchwyliaeth.
  • Derbynfa a Chyfathrebu
    • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau ffôn ac ymwelwyr.
    • Cynnig lluniaeth i ymwelwyr a rhoi gwybod i’r staff perthnasol am eu cyrhaeddiad.
    • Cymryd negeseuon yn gywir a sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo mewn pryd.
    • Cynnal swyddfa drefnus a chyfeillgar a chynrychioli’r sefydliad mewn modd proffesiynol i’r cyhoedd, gwirfoddolwyr a chydweithwyr.
  • Cefnogi Gwirfoddolwyr
    • Cynorthwyo gyda threfniadau cyfarfodydd gan gysylltu ag aelodau.
    • Helpu i brosesu anfonebau gwirfoddolwyr a threuliau teithio.
  • Tasgau Ysgrifenyddol a Digidol Cyffredinol
    • Creu deunyddiau mewnol fel taflenni a phosteri gan ddefnyddio meddalwedd greadigol, yn unol â safonau cenedlaethol.
    • Diweddaru cynnwys tudalennau rhanbarthol gwefan Llais yn rheolaidd.
    • Mewnbynnu, storio a nôl data gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol a meddalwedd arolygon.
    • Cefnogi’r rhaglen ymweld flynyddol drwy nodi data perthnasol.
    • Rheoli amser yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser a gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau sefydledig.
  • Cefnogaeth Cyfarfodydd a Grwpiau
    • Cefnogi’r Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol drwy baratoi agendâu, cymryd cofnodion, a drafftio adroddiadau a llythyrau.
    • Trefnu lleoliadau a lluniaeth ar gyfer cyfarfodydd fel y bo angen.

Gweithio i'n sefydliad

Mae pawb yn Llais yn credu y dylai pobl a chymunedau yng Nghymru fyw bywydau hapus, iach lle maen nhw'n cael yr iechyd a'r gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Credwn mai’r unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy godi pŵer a dylanwad eu lleisiau wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Dyna le rydych chi'n dod i mewn! Ydych chi’n chwilio am y cyfle i ymuno â sefydliad newydd, angerddol, a chyfrannu at wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru?

Rydym yn chwilio am bobl angerddol a galluog o bob cefndir sy'n dod â phrofiadau bywyd gwahanol a fydd yn helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol a all ddod â sgiliau, profiadau byw a safbwyntiau ffres i'n gwaith. 

Mae Llais yn darparu ystod lawn o fuddion i staff gan gynnwys:

·         28 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 34 diwrnod gyda hyd wasanaeth) ynghyd â gwyliau cyhoeddus statudol – pro rata ar gyfer cyflogeion rhan amser

·         Cyflog cystadleuol

·         Gweithio hyblyg

·         Aelodaeth awtomatig o gynllun pensiwn y GIG

·         Mynediad at y Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ein gwasanaeth cwnsela cyfrinachol

Prif Gyfrifoldebau’r Disgrifiad Swydd

Mae disgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn, a fyddech cystal â'i adolygu cyn cyflwyno'ch cais.

Os ydych yn barod am yr her ac eisiau bod yn rhan bwysig o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a bod gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â: Kirsten Jones drwy [email protected]

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kirsten Jones
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg