Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapi Galwedigaethol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol: Cytundeb 7 diwrnod
Oriau
Rhan-amser - 13.75 awr yr wythnos (I'w gytuno gyda deilydd y swydd)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS902-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli
Tref
Pwllheli
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Gynorthwyydd Therapi Galwedigaethol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.

Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwyydd Therapi Galwedigaethol brwdfrydig, ymroddedig a gofalgar i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol. Gan weithio o dan ddirprwyaeth a goruchwyliaeth Therapydd Galwedigaethol cofrestredig, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cefnogi rhaglenni adsefydlu, hyrwyddo annibyniaeth a hwyluso rhyddhau diogel ac amserol o'r ysbyty.

Gan gydweithio'n agos â Therapyddion Galwedigaethol a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, byddwch yn cynnal ymyrriadau dirprwyedig, rhaglenni triniaeth a gweithgareddau adsefydlu, gan gyfrannu at ddarparu gofal o safon uchel a chanlyniadau cadarnhaol i gleifion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, agwedd gadarnhaol a hyblyg at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a'r gallu i weithio'n annibynnol yn ogystal ag fel rhan o dîm. 

Mae rhuglder yn y Gymraeg o fantais sylweddol ar gyfer y swydd hon a bydd yn cefnogi ein gallu i ddiwallu anghenion cyfathrebu a dewisiadau iaith y boblogaeth a wasanaethwn. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg A/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Gweithio o dan ddirprwyaeth, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth Therapydd Galwedigaethol cofrestredig, gan ddarparu ymyriadau therapi galwedigaethol o fewn cymwyseddau a phrotocolau cytûn.
  • Cefnogi ymyriadau ac adsefydlu cleifion, gan hyrwyddo annibyniaeth a gwneud y mwyaf o'u gallu swyddogaethol.
  • Cynorthwyo gyda chynllunio rhyddhau, gan gysylltu â chleifion, teuluoedd, gofalwyr ac asiantaethau partner i sicrhau rhyddhau diogel ac amserol o'r ysbyty.
  • Darparu offer ac addasiadau bach a dangos eu defnydd diogel yn unol â chyfarwyddyd y Therapydd Galwedigaethol.
  • Cadw cofnodion clinigol cywir, amserol a phroffesiynol yn unol â pholisïau'r Bwrdd Iechyd a safonau proffesiynol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, gofalwyr, cydweithwyr ac aelodau'r tîm amlddisgyblaethol, gan sicrhau dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cyfrannu at gyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol, trafodaethau ward ac adolygiadau cleifion fel sy'n briodol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Fframwaith Credyd Ansawdd ar lefel 3

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth am rôl therapi galwedigaethol.
  • Profiad perthnasol yn gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol
  • Gwybodaeth sylfaenol am rai cyflyrau sy'n berthnasol i'r maes clinigol ac effeithiau salwch ar weithrediad

Dawn a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol gydag unigolion
  • Yn gallu teithio ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
  • Y gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mrs Tracey Evans
Teitl y swydd
Clinical Lead Occupational Therapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 852888
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Emma Davies- Therapiwr Galwedigaethol arweinydd clinigol

03000 852888

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg