Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg Cymunedol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dau Swydd - Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 09:00-17:00 a Dydd Mawrth-Dydd Gwener, 09:00-17:00)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC223-0626-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Brenhinol Alexandra
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Swyddog Clercyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio a ddau berson brwdfrydig a ysgogir sydd â'r gallu i wneud tasgau clerigol. Bydd y swydd yn seiliedig yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, Marine Drive, Rhyl.
Bydd gan y ceiswyr llwyddiannus safon dda o addysg, sgiliau cyfathrebu da, gallu i weithio ar eu hinitiatiwn eu hunain ac yn effeithlon ac yn drefnus gyda'u llwyth gwaith eu hunain.
Dylai'r ceiswyr hefyd fod â sgiliau teipio. Mae ymddygiad da dros y ffôn a sgiliau cyfathrebu'n hanfodol. Byddai gallu siarad Cymraeg yn fuddiol ond nid yn angenrheidiol. Bydd yn ofynnol i'r sawl a gaiff y swydd ddangos dull proffesiynol ac sensitif ac wrthymwneiddio cyfrinachedd ar bob adeg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Cyflawni dyletswyddau clercio a rhai dyletswyddau prosesu geiriau yn ôl cyfarwyddyd y tîm.
- Cynorthwyo gyda threfnu / ail-drefnu apwyntiadau yn ôl cyfarwyddyd y tîm.
- Delio ag ymholiadau naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gan weithwyr iechyd, cydweithwyr a’r cyhoedd, dan arweiniad y tîm gweinyddol.
- Ffeilio adroddiadau / llythyrau neu wybodaeth berthnasol yn y nodiadau achos unigol gan ddilyn protocolau perthnasol ac mewn ffordd gywir ac amserol.
- Delio â’r post sy’n dod i mewn a mynd allan a’i ddosbarthu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- TGAU mewn Saesneg neu NVQ II mewn Gweinyddu neu Profiad y gellir ei brofi
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster TG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau bysellfwrdd sylfaenol
- Yn gallu defnyddio systemau gwybodaeth electronig
- Yn gallu gweithio i derfynau amser llym a blaenoriaethu tasgau heb fawr ddim goruchwyliaeth
Meini prawf dymunol
- Previous use of oracle or similar system.
- Working knowledge of the WPAS (patient administration system)
Gwybodaeth, Nodweddion Personol a Gofynion Perthnasol Eraill
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth o gyfrinachedd
- Parod i ddysgu sgiliau newydd
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â'r holl randdeiliaid
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Knight
- Teitl y swydd
- Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856189
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
