Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Peirianneg Feddygol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol: Rhan Amser
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-HS056-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Rhyl
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Peirianneg Feddygol (EBME)

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Technegydd Peirianneg Feddygol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Lleol Betsi Cadwaladr

Mae'r Tîm Peirianneg Feddygol (EBME) yn cefnogi holl ddefnyddwyr offer meddygol yn yr ysbytai acíwt a chymunedol yn y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod offer bob amser yn ddiogel i'w ddefnyddio a'i fod yn perfformio yn ôl y disgwyl, gan gynnal diogelwch y defnyddwyr a'n cleifion.

Mae profiad blaenorol o offer meddygol yn ddymunol ond nid yn hanfodol os oes gennych brofiad blaenorol helaeth o atgyweirio a chynnal offer electronig cymhleth. Cynigir cefnogaeth a hyfforddiant gan sicrhau rhagolygon gyrfa rhagorol.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei werthuso bob blwyddyn, gyda'r bwriad o ddatblygu ei wybodaeth a'i sgiliau lle bo hynny'n briodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn darparu gwasanaeth cymorth technegol mewn perthynas ag ystod eang o offer meddygol ledled ardal Canolog Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:

  • Cynnal gwaith trwsio, graddnodi, cynnal a chadw a gynlluniwyd ar offer meddygol ai gomisiynu.
  • Cynghori a chefnogi defnyddwyr offer meddygol o ran swyddogaethau'r dyfeisiau au cynnal a chadw.
  • Cynorthwyo i werthuso gofynion cynnal a chadw, ymchwilio i ddigwyddiadau a threialu offer.
  • Gwneud cais am offer sbar a deunyddiau, archebu a derbyn danfoniadau offer a deunyddiau gan ddilyn gweithdrefnau penodol.
  •  Cynnal gwybodaeth a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technegol.
  • Meddu ar agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth electroneg broffesiynol hyd at lefel gradd neu HNC/HND ynghyd â chyrsiau byr neu hyfforddiant a phrofiad cyfatebol
  • Profiad cyfatebol mewn safle electroneg
Meini prawf dymunol
  • Wedi gwasanaethu prentisiaeth electroneg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddiagnosis namau offeryniaeth electronig ac atgyweirio offer diwydiannol neu feddygol
  • Profiad am Systemau Rheoli Ansawdd ISO 9001
Meini prawf dymunol
  • Profiad o fentora hyfforddeion a/neu fyfyrwyr
  • Gweithio o fewn amgylcheddau clinigol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Geraint Williams
Teitl y swydd
EBME Site Lead (Central)
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845750
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg