Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiotherapi
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
37.5 awr yr wythnos (Llawn amser 37.5 awr yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
050-AHP188-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Y Rhyl
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Radiograffydd Therapi

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan radiograffwyr therapi brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd wedi'u cofrestru gyda'r HCPC, neu sy’n gymhwyso’n fuan, i ymuno â'r tîm gyfeillgar ac angerddol yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru.

Byddwch yn cylchdroi rhwng ardaloedd cyn-driniaeth ac triniaeth, a chewch gefnogaeth lawn drwy ein rhaglen hyfforddi a sefydlu (preceptorship). Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol yn hanfodol.

Mae'r adran wedi'i chyfarparu â pheiriannau Varian TrueBeam a Halcyon, system Aria, Uned Orthofoltedd, sganiwr cynllunio CT Canon, ProSoma, Eclipse TPS a Radiotherapi a Arweinir gan Arwyneb (Surface Guided Radiotherapy).

Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n hyblyg rhwng 08:00 ac 18:30 i ddiwallu anghenion gweithredol y gwasanaeth ac i gymryd rhan yn y rota ar alwad.

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod wythnos y 16eg o Dachwedd 2026.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrannu at wasanaeth o'r ansawdd orau sy'n canolbwyntio ar gleifion dan oruchwyliaeth Uwch Radiograffwyr a'r Uwcharolygwyr Radiograffeg. 

Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth radiotherapi effeithiol ac effeithlon, gan nodi a chyfathrebu'r angen am welliannau posibl.

Ymgymryd â chynorthwyo ag ystod eang o driniaethau radiotherapi ar draws yr Adran Radiotherapi yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, fel bo'n briodol i lefel a sgôp yr hyfforddiant - Gall y sgôp triniaeth hwn gynnwys er enghraifft gwneud triniaethau brys y tu allan i oriau.   

Gwneud Triniaethau Radiograffeg o ansawdd uchel gan sicrhau darparu llif gwaith yn effeithlon, a chydymffurfio â'r rheoliadau statudol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau’r Adran Ffiseg Feddygol, ymbelydredd ïoneiddio, BIPBC a Radiotherapi.  

Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

RHINWEDDAU PERSONOL

Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad Cymraeg

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Radiograffydd Therapiwtig cofrestredig yr HCPC
  • B.Sc. Anrhydedd mewn Radiotherapi neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad diweddar o weithio mewn adran Radiotherapi brysur gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau radiotherapi modern
Meini prawf dymunol
  • Gweithio gydag offer modern Varian a meddalwedd Aria
  • Profiad o weithio yn y GIG
  • Profiad o adrannau radiotherapi eraill

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Dull hyblyg o ymdrin â gwaith

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Vicki Wilson
Teitl y swydd
Interim Radiotherapy Services manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844041
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg