Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Imiwneiddio
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR582-0825-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Clinig Saltney
Tref
Saltney
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Goruchwylydd Clinigol Tîm Haawdd

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod yn Nyrs Imiwneiddio (Goruchwyliwr Clinigol Band 6) yn gweithio o fewn y Tîm Imiwneiddio. Nod y swydd yw goruchwylio’r tîm o imiwneiddwyr i ddarparu imiwneiddiadau yn ddiogel i’r boblogaeth plant oed ysgol. Nod y Tîm yw cefnogi’r gwasanaeth Nyrsys Ysgol cyfredol i ddarparu’r rhaglen imiwneiddio ar draws Wrecsam a Sir y Fflint; mewn ysgolion, clinigau neu yn y cartref. Yr amcanion yw hyrwyddo a chynyddu nifer y plant oed ysgol sy’n cael imiwneiddiadau yn unol â thargedau’r llywodraeth; lleihau effaith y rhaglen imiwneiddio ar wasanaethau Nyrsio Ysgol craidd; datblygu tîm cydlynol sy’n gweithredu’n dda; integreiddio’r tîm ymroddedig i dimau nyrsio ysgol cyfredol; a sicrhau bod y rhaglen yn cael ei ddarparu’n ddi-dor gan ddangos arfer gorau a chanlyniadau cadarnhaol.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â chofrestriad NMC cyfredol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn benodol, bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am: 

  • Ddarparu gwasanaeth imiwneiddio diogel, helpu i ddylanwadu a hwyluso newid o fewn y lleoliadau a'r meysydd gwasanaeth.
  • Cynnal asesiadau clinigol ar gyfer cleifion cyn iddynt gael eu brechu. 
  • Cefnogi adolygiadau hanes meddygol cymhleth ac adweithiau anffafriol posibl a rhoi cyngor arbenigol fel bo angen.
  • Goruchwylio ffurfweddiad y tîm clinigol brechu a'r orsaf frechu o fewn y model darparu brechlynnau torfol. 
  • Goruchwyliaeth glinigol ar gyfer darparu brechlynnau diogel. 
  • Goruchwylio o ran llunio a pharatoi'r brechlynnau cyn eu gweinyddu a sicrhau fod pob gweithgarwch yn cael ei gofnodi.  
  • Bydd deilydd y swydd yn rhoi cefnogaeth a goruchwyliaeth glinigol i'r Imiwneiddwyr.
  • Bydd deilydd y swydd  yn sefydlu, cydlynu a darparu hyfforddiant i Imiwneiddwyr Bwrdd Iechyd lleol.
  • Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor clinigol arbenigol iawn o ran gofal cleifion. 
  • Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor clinigol arbenigol iawn o ran y materion yn ymwneud â chydsyniad plant am imiwneiddiadau.
  • Bydd deilydd y swydd yn aml yn ymgymryd ag archwiliadau fel y dynodwyd gan y Rheolwr Tîm, a darparu adborth ar ganlyniadau archwilio.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig
  • Gwybodaeth broffesiynol a gafwyd drwy Radd, wedi'i gefnogi gan gymhwyster Ôl-radd/Diploma neu bod â sgiliau, gwybodaeth , hyfforddiant a phrofiad cyfatebol
  • Hyfforddiant/cymhwyster mentora
  • Gwybodaeth helaeth am yr agenda Imiwneiddio a Brechu
  • Hyfforddiant imiwneiddio cyfredol/ wedi'i ddiweddaru neu'n barod i wneud hyfforddiant pellach, neu brofiad mewn safle goruchwyliaeth glinigol.
Meini prawf dymunol
  • MSc
  • SCPHN mewn Nyrsio Ysgol
  • Cymhwyster fel nyrs rhagnodi

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio o fewn yr arbenigedd un ai fel Cydlynydd Imiwneiddio neu fel Nyrs Imiwneiddio.
  • Profiad ôl-gofrestru sylweddol. Gweithio gyda phlant. Profiad blaenorol mewn goruchwyliaeth glinigol.
  • Profiad blaenorol mewn imiwneiddio a brechu plant.
  • Gwybodaeth am amserlenni imiwneiddio plant yn unol ag argymhellion cenedlaethol.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • Gwybodaeth waith a sgiliau cyfrifiadurol i ddefnyddio dogfennau Word, mynediad at y rhyngrwyd a gohebiaeth e-bost a chadw cofnodion electronig
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol a pharodrwydd i ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli newid a rhoi newid ar waith.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tracey Axon
Teitl y swydd
Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859301
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg