Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Monday to Friday)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC479-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Llys Carlton, Llanelwy
- Tref
- Llanelwy
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Personol / Gweinyddwr
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o Swyddfa’r Cyfarwyddwr Nyrsio gyda chyfrifoldeb ac atebolrwydd penodol am ddarparu cefnogaeth effeithlon ac effeithiol i'r Pennaeth Ansawdd a swyddogaeth y Gyfarwyddiaeth Ansawdd o fewn y Bwrdd Iechyd.
Mae hon yn rôl sy’n symud yn gyflym iawn ac yn un sy’n rhoi boddhad. Byddwch yn gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd i gefnogi'r Pennaeth Ansawdd i gynnal a gweithredu prosesau newydd, yn ogystal â nodi dysgu a rhannu arferion gorau er mwyn sicrhau bod cleifion a theuluoedd yn gallu derbyn y gofal mwyaf diogel posibl.
Byddwch yn adrodd i ac yn gweithio ochr yn ochr â Chynorthwyydd Gweithredol y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth fel rhan o dîm deinamig i ddarparu gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol o lefel uchel.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi arfer gweithio ar lefel uwch, a bydd yn gallu dangos disgresiwn, ynghyd â sgiliau cynllunio, trefnu a chyfathrebu rhagorol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn ymgorffori pob agwedd yn ymwneud â chymorth Cynorthwyydd Personol gan gynnwys: paratoi ar gyfer cyfarfodydd; cymryd cofnodion mewn fforymau amrywiol; rheoli dyddiaduron cymhleth a rheoli e-byst. Ar ben hyn, bydd yr ymgeisydd a benodir yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i'r Pennaeth Ansawdd, gan ddarparu cyngor a chyfeirio ar gyfer ystod eang o faterion, a bod â’r gallu i weithio'n annibynnol ar dasgau sydd wedi’u neilltuo.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol o lefel uchel.
Trefnu cyfarfodydd, yn cynnwys creu agendau cymhleth, a chymryd a thrawsgrifio cofnodion ffurfiol.
Rhoi cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol i gyfarwyddwr enwebedig fel bod angen. Bydd hyn yn cynnwys trefnu ac aildrefnu dyddiaduron.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Gradd neu lefel gyfwerth o brofiad
- • Diploma mewn gweinyddu swyddfa neu brofiad ar lefel diploma
Meini prawf dymunol
- • NVQ neu gywerth mewn Gweinyddu
- • Tystysgrif mewn goruchwyliaeth neu reoli
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- • Profiad sylweddol ar lefel uchel o ddarparu gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr/ Cynorthwyydd Personol.
- • Yn gyfarwydd â gweithdrefnau a therfynau amser swyddfa
Meini prawf dymunol
- • Profiad blaenorol o weithio fel Gweinyddwr / Cynorthwyydd Personol a Chyfarwyddwr Gweithredol neu gyfwerth.
- • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG.
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- • Gallu gweithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau.
- • Sgiliau trefnu.
Meini prawf dymunol
- • Gallu llunio adroddiadau
- • Hyderus ym mhob agwedd o waith swyddfa
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth uwch am becynnau prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyno.
- • Gallu cymryd cofnodion
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- • Agwedd gyfeillgar, broffesiynol
- • Hyderus
- • Awyddus a brwdfrydig.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicky Southern
- Teitl y swydd
- EA to Executive Director of Nursing and Midwifery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 854659
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector